Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru
Mae Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth arbenigol a therapi i unrhyw un 3 oed a hŷn sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin rhywiol neu drais naill ai'n ddiweddar neu yn y gorffennol. Rydym ni hefyd yn cynnig cefnogaeth a therapi arbenigol i bartneriaid ac aelodau teulu’r rheiny sydd wedi dioddef oherwydd cam-drin rhywiol a thrais.
Beth yw Trais Rhywiol?
Trais rhywiol yw'r term cyffredinol a ddefnyddiwn i ddisgrifio unrhyw fath o weithred neu weithgaredd rhywiol digroeso. Mae'n cynnwys treisio, ymosodiad rhywiol ac unrhyw fath arall o gam-drin rhywiol.