Adnoddau
Cartref > Gwybodaeth & Adnoddau > Adnoddau
Adnoddau Defnyddiol
Darllenwch Lyfrau Lles ar Bresgripsiwn – Iechyd Meddwl – lansiwyd y casgliad hwn ym mis Mehefin 2019 ac mae’r holl lyfrau ar gael o’r 9 brif llyfrgell yng Ngwynedd ac mewn llyfrgelloedd ledled Cymru. Gall pobl fenthyg y llyfrau unrhyw bryd o’u llyfrgell ac nid oes unrhyw ddirwyon ynghlwm â’r llyfrau hyn os ydynt yn cael eu dychwelyd yn hwyr.
Llyfrau Llesol – rhestr 2016 ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd yr ydych chi’n gyfarwydd â hi.
Llyfrau Llesol Rhestr Gymraeg
Llyfrau Llesol Rhestr Saesneg
Help Llaw Mewn Llyfr – rhestr mae Llyfrgell Gwynedd wedi’i rhoi at ei gilydd – ond nid yw hon yn rhestr arbenigol nac yn un sydd wedi’i hadolygu gan gymheiriaid.
Tudalen Llyfrgelloedd ac Archifau Cyngor Gwynedd
Tudalen Iechyd a Lles Cyngor Gwynedd
Llyfrau yn Seiliedig ar Drais a Cham-drin Plant
- A Terrible Thing Happened – Margaret Holmes - Mae’r stori ddarluniadol hon, a gaiff ei hadrodd mewn ffordd ysgafn, yn cynnwys cymeriadau anifeiliaid ar gyfer plant sydd wedi gweld unrhyw fath o ddigwyddiad treisgar neu drawmatig gan gynnwys cam-drin corfforol, trais gangiau, damweiniau, llofruddiaeth, hunanladdiad a thrychinebau naturiol fel llifogydd neu dân. Cyhoeddiad Americanaidd.
- Abuse: Sometimes families hurt – Yvonne Coppard – Adnodd trafod delfrydol ar gyfer Cyfnod Allweddol 3/4. Adrannau ar alcohol a dibyniaeth cyffuriau, iechyd meddwl, trais yn y cartref ac ati.
- Cam-drin Plant – Pete Sanders - Llyfr am y pwnc.
- Hurting Inside – Lois Arnold, Anne Magill - Canllaw ar gyfer pobl ifanc sydd mewn gofid oherwydd cam-drin neu esgeulustra rhywiol, corfforol neu emosiynol o unrhyw fath.
- Out in the open: a guide for young people who have been sexually abused - Ouainé Bain a Maureen Sanders
- Tell someone it happened to me – Nancy Flowers - Llyfr syml yn pwysleisio pwysigrwydd sut i ymateb i ymddygiad anghywir, drwy ddweud wrth rywun a pheidio â theimlo’n wael.
- What’s Wrong With Bottoms? - Jenny Hessell & Mandy Nelson - Mae bachgen ifanc yn cael sylw di-groeso gan ewythr, ac yn penderfynu dweud wrth ei fam.
- Whisper – Ruby C. Waddell - Stori sydd wedi’i hysgrifennu ar gyfer plant ifanc iawn, a’i hanelu at rieni a gwarcheidwaid i godi ymwybyddiaeth am adael i blant fod yn agored gyda’u meddyliau ac i beidio â chadw cyfrinachau. Yn y stori, mae gan Gemini gyfrinach. Dydy hi ddim yn gwybod beth i’w wneud, ac felly mae hi’n cadw’r gyfrinach hon rhag pawb. Mae’r stori yn dangos canlyniadau gweithredoedd Gemini a’r effaith y mae hyn yn ei chael arni hi. Nid yw natur y gyfrinach yn cael ei thrafod, er mwyn i blant allu uniaethu â hi a’u profiadau eu hunain.
Rydym ni wedi casglu ambell i adnodd a gwybodaeth ddefnyddiol:
Taflenni:
- My Support Space App (Saesneg yn unig)
- Guide to My Support Space (Saesneg yn unig)
- Gwahaniaethu ar sail Oedran a Cham-drin Pobl Hŷn
- Anyone can be a victim of rape
- SV later in life
- Self help guide for survivors of rape and sexual assault
- LGBT people and Sexual violence
- Report to court
- Taflen Drug Alcohol Wellbeing
Dolenni:
- Mae The Portal yn cefnogi menywod a merched duon a lleiafrifoedd ethnig 16+ sydd wedi dioddef trais rhywiol a thrais yn y cartref
- Mae Safeline wedi argymell rhestr ddarllen ar gyfer goroeswyr
- Mae gan Safeline ddolenni defnyddiol ar amrywiaeth o bynciau
- Gwybodaeth am anhwylderau Gorbryder
- Mae Rape Crisis wedi casglu adnoddau ynghyd ar ymdopi ar ôl profi trais rhywiol
- Mae’r Survivors Trust wedi casglu gwybodaeth ynghyd ar gyfer goroeswyr ar ei wefannau
- Rhestr o lyfrau iechyd meddwl ar gyfer Cymru
- Dolenni defnyddiol ar gyfer llyfrau (Cymerwch gip ar y tab 'Dolenni Defnyddiol ar gyfer Llyfrau’ ar y dudalen hon)
- Family Lives
Llinellau Cymorth:
- Byw Heb Ofn 0808 8010800
Dynion:
- Rydym ni wedi casglu ynghyd adnoddau yn arbennig ar gyfer goroeswyr gwrywaidd
- Canllaw hunan-gymorth Ben’s Place – Adnodd ar gyfer dynion neu fechgyn sydd wedi goroesi cam-drin rhywiol (Survivors UK)
- Llinell Gymorth Genedlaethol Safeline ar gyfer Dynion a Bechgyn 0808 800 5005 - gwasanaeth pwrpasol ar gyfer dynion a bechgyn y mae treisio a cham-drin rhywiol wedi effeithio arnyn nhw
- Mae Living Well wedi casglu ynghyd gwybodaeth ar gyfer dynion sydd wedi profi trais rhywiol
- Mae gan Living Well hefyd adran yn benodol ar gyfer trafod materion a phroblemau cyffredin y mae dynion sydd wedi profi trais rhywiol yn gallu eu hwynebu a ffyrdd y gallant ddelio â nhw.
Menywod:
Os ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc neu rywun sy’n pryderu drostynt, efallai y bydd yr adnoddau canlynol yn ddefnyddiol:
- Gwefan a Llinell Gymorth ChildLine - 0800 1111
- Mae gwefan NSPCC yn cynnig cymorth ar gyfer plant sy’n cael eu cam-drin
- Mae’r GIG wedi creu tudalen we ar gyfer canfod arwyddion o gam-drin rhywiol mewn plant
- Llyfrau ar gam-drin a thrais plant (cymerwch gip ar y tab 'Llyfrau ar Gam-drin a Thrais Plant' ar y dudalen hon)
- Family Lives