Beth yw Trais Rhywiol

Beth yw trais rhywiol?

Trais rhywiol yw'r term cyffredinol a ddefnyddiwn i ddisgrifio unrhyw fath o weithred neu weithgaredd rhywiol digroeso. Mae'n cynnwys treisio, ymosodiad rhywiol ac unrhyw fath arall o gam-drin rhywiol.

Gall cam-drin rhywiol ddigwydd i unrhyw un

Nid yw’r rheiny sy’n cam-drin yn gwahaniaethu. Nid oes unrhyw esgus na chyfiawnhad dros gam-drin rhywiol. Y sawl sy’n cam-drin sy’n gwbl gyfrifol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, waeth ble'r oeddech chi, beth oeddech chi'n ei wneud, beth oeddech chi'n ei wisgo, beth oeddech chi'n ei ddweud, os oeddech chi'n feddw neu o dan ddylanwad cyffuriau, nid eich bai chi oedd hynny.

Gall cam-drin rhywiol ddigwydd ar unrhyw adeg

P’un a ddigwyddodd amser maith yn ôl, neu ei fod newydd ddigwydd nawr, doeddech chi ddim yn haeddu hyn.

Gall effeithiau cam-drin rhywiol gynnwys llawer o gyflyrau emosiynol, seicolegol a chorfforol. Gall profiad trais rhywiol ar unrhyw oedran i wrywod a benywod gael effeithiau dinistriol a hirdymor ar y meddwl, y corff, ymddygiad, meddyliau a theimladau.

Mae'r rhestr ganlynol yn cynnwys rhai o'r effeithiau sydd bellach yn cael eu cydnabod fel canlyniadau cam-drin rhywiol:

Mae pob goroeswr yn unigolyn unigryw a gall brofi rhai, pob un neu ddim o'r symptomau canlynol:

  • Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD)
  • Iselder
  • Gorbryder
  • Ymdeimlad o ddatgysylltiad (Dissociation)
  • Ôl-fflachiadau (Flashbacks)
  • Meddyliau Hunanladdol
  • Hunanladdiad
  • Camddefnyddio a dibyniaeth ar Alcohol/Cyffuriau
  • Problemau rhywiol
  • Anhwylderau Bwyta
  • Hunan-anafu ac ymddygiad hunan-niweidio
  • Anhwylderau Personoliaeth
  • Hunan-barch a/neu hyder isel
  • Problemau Rhianta
  • Problemau Perthynas
  • Syndrom Trawma Treisio

Os ydych chi wedi dioddef neu wedi goroesi trais rhywiol, fe all fod yn frawychus ac yn ddychrynllyd meddwl ei fod yn gallu effeithio arnoch chi mewn un o’r ffyrdd uchod. Mae RASASC Gogledd Cymru yn ymdrechu i gael yr arbenigedd proffesiynol a'r ddealltwriaeth empathig sy'n angenrheidiol i'ch helpu chi i ddeall a chwrdd â'r heriau a'r anawsterau y gallech fod yn eu profi o ganlyniad i'r cam-drin rydych chi wedi'i ddioddef.

Yn ôl y gyfraith, dim ond “os yw ef neu hi'n cytuno trwy ddewis, a bod ganddo/ganddi’r rhyddid a'r gallu i wneud y dewis hwnnw” y mae person yn cydsynio i weithgaredd rhywiol.

Os ydych chi wedi dweud “ie” i rywbeth oherwydd bod ofn arnoch chi am eich bywyd neu ddiogelwch, neu am rywun rydych chi'n poeni amdano, neu os oeddech chi'n cysgu neu'n anymwybodol neu'n analluog trwy alcohol neu gyffuriau, ni wnaethoch chi gytuno trwy ddewis ac nid oedd gennych chi’r rhyddid na'r gallu i wneud y dewis hwnnw.

Os gwnaethoch chi rewi neu os aeth eich corff yn gloff trwy ofn, os na wnaethoch chi ddweud y gair “na” neu os nad oeddech chi'n gallu siarad trwy sioc, os na wnaethoch chi weiddi neu ymladd neu frwydro, nid yw'n golygu eich bod wedi rhoi eich caniatâd am yr hyn a ddigwyddodd i chi.

Os fe ddywedoch chi “na”, roeddech chi'n golygu na.

 

I’w gwneud yn haws:

Caniatâd. Mae’n air pwerus sydd, am ryw reswm rhyfedd, dal yn destun dadlau hyd heddiw. Mae’n ymddangos bod llawer o bobl sydd dal ddim yn deall beth yw ystyr “caniatâd”.

“Pwy bynnag rydych chi’n gobeithio cael ‘amser da’ gyda nhw, gwnewch yn siŵr eu bod nhw wir eisiau hynny. Dyna’i gyd. Does dim yn anodd am y peth. Wir.”

Os ydych chi dal i gael trafferth gyda’r peth, dychmygwch eich bod chi, yn hytrach na cheisio cael rhyw, yn gwneud paned o de iddyn nhw yn lle hynny.

Rydych chi’n dweud, “Hei, wyt ti eisiau paned o de?” ac maen nhw’n dweud, “OMB, ydw, mi fuaswn i wrth fy MODD efo paned o de! Diolch!” Yna rydych chi’n gwybod eu bod nhw eisiau paned o de.

Os ydyn nhw’n anymwybodol, peidiwch â gwneud paned o de iddyn nhw. Dydy pobl sy’n anymwybodol ddim yn gallu ateb y cwestiwn, “Wyt ti eisiau paned?” gan eu bod nhw’n anymwybodol.

Os ydych chi’n dweud, “Hei, wyt ti eisiau paned o de?” ac mae nhw’n pendroni ac yn dweud, “Dydw i ddim yn siŵr iawn …” gallwch chi wneud paned o de iddyn nhw neu beidio, gan fod yn ymwybodol efallai na fyddent yn ei yfed, ac os ydyn nhw ddim yn ei yfed – a dyma’r rhan bwysig – peidiwch â gwneud iddyn nhw ei hyfed. Dydych chi ddim yn gallu eu beio nhw eich bod chi wedi mynd i’r ymdrech o wneud paned rhag ofn y bydden nhw eisiau un; mae’n rhaid i chi ddelio â’r ffaith nad ydyn nhw am ei hyfed. Nid yw’r ffaith eich bod chi wedi gwneud paned yn golygu fod gennych chi’r hawl i’w gweld nhw’n ei hyfed.

Os ydyn nhw’n dweud, “Na, dim diolch,” peidiwch â gwneud paned iddyn nhw. O gwbl. Peidiwch â gwneud paned, peidiwch â gwneud iddyn nhw yfed paned, peidiwch â gwylltio gyda nhw am beidio â bod eisiau paned. Dydyn nhw jyst ddim eisiau paned, iawn?

Efallai y byddant yn dweud, “Ie plîs, dyna garedig wyt ti,” a phan mae’r baned yn cyrraedd, dydyn nhw ddim eisiau hi o gwbl mewn gwirionedd. Efallai ei bod dipyn bach o niwsans eich bod chi wedi mynd i’r drafferth o wneud paned iddyn nhw, ond does dim rheidrwydd arnyn nhw i yfed y baned. Fe oedden nhw eisiau’r baned, dydyn nhw ddim bellach. Weithiau mae pobl yn newid eu meddwl yn yr amser y mae’n ei gymryd i ferwi’r tegell, gwneud y baned ac ychwanegu’r llaeth. Mae’n iawn i bobl newid eu meddwl, a does dal ddim hawl gennych chi i’w gwylio yn ei hyfed, hyd yn oed os aethoch chi i’r drafferth o wneud y baned iddyn nhw.

Os ydyn nhw’n anymwybodol, peidiwch â gwneud paned o de iddyn nhw. Dydy pobl sy’n anymwybodol ddim yn gallu ateb y cwestiwn, “Wyt ti eisiau paned?” gan eu bod nhw’n anymwybodol.

Iawn, efallai eu bod nhw’n ymwybodol pan ofynnoch chi iddyn nhw a oedden nhw eisiau paned, a’u bod nhw wedi dweud eu bod nhw eisiau ar y pryd, ond yn yr amser mae wedi ei gymryd i chi ferwi’r tegell, gwneud y baned ac ychwanegu’r llaeth, maen nhw bellach yn anymwybodol. Dylech chi roi’r baned lawr, gwneud yn siŵr bod y person anymwybodol yn ddiogel, a – a dyma’r rhan bwysig – peidio â gwneud iddyn nhw yfed y baned.

Os oes rhywun wedi dweud eu bod eisiau paned, wedi dechrau yfed y baned ac yna’n pasio allan cyn ei gorffen, peidiwch â pharhau i dollti’r baned lawr eu gwddf. Cymerwch y baned oddi wrthyn nhw a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n ddiogel. Achos dydy pobl anymwybodol ddim eisiau paned. Gallwch chi fod yn siŵr o hynny.

Os oes rhywun wedi dweud “iawn” i baned yn eich tŷ chi dydd Sadwrn diwethaf, dydy hynny ddim yn golygu eu bod nhw eisiau i chi wneud paned iddyn nhw drwy’r amser. Dydyn nhw ddim eisiau i chi ddod draw i’w tŷ nhw’n annisgwyl a gwneud paned iddyn nhw a’u gorfodi nhw i’w hyfed gan ddweud, “OND ROEDDET TI EISIAU PANED WYTHNOS DIWETHAF,” na deffro i’ch canfod chi yn tollti paned i lawr eu gwddf ac yn dweud “OND ROEDDET TI EISIAU PANED NEITHIWR.”

A dyna ni. Mae’r metaffor clyfar hwn yn dangos popeth – POPETH! — sydd o’i le gyda’r deinasoriaid hynafol sy’n meddwl bod y mater o ganiatâd yn un cymhleth. Nid yw hynny’n wir. Mae e’ fel paned. Clir fel gwydr.

Ac yn well fyth? Mae hefyd yn gweithio ar blant, drwy gyfnewid y baned am hufen iâ. Er byddai hufen iâ yn gweithio gydag oedolion hefyd siŵr o fod!