Gwirfoddoli

Gwirfoddolwyr yw un o adnoddau mwyaf gwerthfawr Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru.

Mae ein gwirfoddolwyr yn ein helpu i gefnogi miloedd o ddioddefwyr a goroeswyr trais a cham-drin rhywiol a’u cefnogwyr bob blwyddyn.

Os ydych chi’n chwilio am rôl werth chweil sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, gallai gwirfoddoli i ni fod yn addas i chi.

Weithiau, rydyn ni’n cynnig cyfleoedd cwnsela gwirfoddol i fyfyrwyr cwnsela sydd â phrofiad addas, naill ai mewn cwnsela neu feysydd cysylltiedig.

E-bostiwch info@rasawales.org.uk i ymuno â’n rhestr o gysylltiadau ac i gael gwybod am gyfleoedd newydd.

2023

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, sichrau lleoliad cwnsela neu ddod yn weithiwr sesiynol i RASASC Gogledd Cymru ac yr hoffech gael eich ystyried, cysylltwch â'r swyddfa ar 01248 670 628neu anfonwch e-bost at info@rasawales.org.uk. Byddwn yn anfon gwybodaeth a ffurflen gais atoch ac yn cadw eich manylion i gysylltu â chi pan fyddwn yn llunio rhestr fer yn ddiweddarach eleni.