SARC
Cartref > Gwybodaeth & Adnoddau > SARC
Canolfan Cyfeirio Trais Rhywiol (SARC) ar gyfer Gogledd Cymru yw Amethyst, lle mae amrywiaeth o weithwyr proffesiynol hyfforddedig yn cynnig cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth i oedolion, plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol yng Ngogledd Cymru.
Maent yn cydweithio gyda'r heddlu, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau gwirfoddol trydydd sector i sicrhau bod gan unrhyw un sydd wedi dioddef y troseddau hyn fynediad at y gofal gorau posibl. Maent yn annibynnol o'r Heddlu a'r broses cyfiawnder troseddol.
Sut allant helpu?
- Gallant egluro'r gwahanol opsiynau sydd ar gael i'ch helpu i wneud y penderfyniad iawn i’ch sefyllfa chi.
- Os ydych wedi cael eich treisio neu wedi dioddef ymosodiad rhywiol, gallwch siarad yn gyfrinachol gydag aelod hyfforddedig o staff yng nghanolfan SARC am yr opsiynau sydd ar gael i chi.
- Gallant drefnu archwiliad meddygol fforensig os yw'r ymosodiad wedi digwydd yn ystod y saith i ddeg diwrnod diwethaf. Weithiau, gall fod yn ddefnyddiol cael archwiliad fforensig hyd yn oed os yw’r ymosodiad wedi digwydd mwy na deg diwrnod yn ôl.
- Gallant helpu drwy egluro’r broses cyfiawnder troseddol.
- Gallant gynnig cymorth trwy ein Cynghorwyr Hyfforddedig Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVAS). Nid oes rhaid i chi wneud adroddiad i'r heddlu i gael y cymorth hwn.
- Gallant gynnig sgrinio iechyd rhywiol ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yma yn y ganolfan neu eich cyfeirio er mwyn gwneud apwyntiad yn lleol.
- Os bydd ymchwiliad yr heddlu yn cyrraedd y llys, gall ein Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVAs) a’n Cynghorwyr Plant a Phobl Ifanc ar Drais Rhywiol (CYPSVAs) eich cefnogi trwy'r broses.
Cysylltu ag Amethyst
Mae’n bwysig eich bod yn cysylltu â Chanolfan Amethyst i wneud apwyntiad gan nad ydynt yn gallu eich gweld heb un.
Ffôn
0808 156 3658
Gallwch ysgrifennu atynt
1-3 Bryn Eirias Close, Off Elian Road, Colwyn Bay, Conwy, LL29 8AB
E-bost
BCU.Amethyst@wales.nhs.uk
(caiff ei fonitro yn ystod oriau swyddfa yn unig)
Maent ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9am hyd at 5pm.
Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth brys y tu allan i oriau.