Sut i Guddio'ch Traciau

Sut i guddio’ch olion wrth ddefnyddio’r safle hwn

Os ydych chi'n poeni y gallai rhywun arall ddod i mewn i'r ystafell tra'ch bod chi'n ymweld â'r wefan hon, ac nad ydych chi am iddyn nhw weld yr hyn rydych chi'n edrych arno, y ffordd gyflymaf o guddio'r wefan yw cau'r ffenestr neu glicio ar 'Gadael y Wefan' sydd ar ochr dde uchaf y wefan, ac sydd hefyd yn statig er mwyn i chi allu cael ato yn hawdd wrth sgrolio.

Efallai y byddai'n syniad da i atgoffa eich hun nawr o'r gorchymyn i’w ddefnyddio ar eich bysellfwrdd er mwyn gallu gwneud hyn ar eich cyfrifiadur:

  • Windows: Pwyso ‘ALT’ ac ‘F4’
  • Apple Macintosh: Pwyso ‘Apple’ ac ‘W’

Gallech hefyd agor ffenestr porwr arall a'i gadael ar agor ar wefan arall, gan ei gosod y tu ôl i'r ffenestr rydych chi'n ei defnyddio ar hyn o bryd (y wefan hon). Fel hyn, os bydd yn rhaid i chi gau'r brif ffenestr yn gyflym, ni fyddwch yn edrych ar sgrin wag.

Ar ôl ymweld â’n gwefan

Er mwyn amddiffyn eich diogelwch a'ch preifatrwydd dylech glirio eich hanes pori ar ôl ymweld â'n gwefan.

Wrth bori ar y rhyngrwyd, mae gwybodaeth am yr holl wefannau yr ydych chi’n ymweld â nhw yn cael ei storio ar eich cyfrifiadur: gwefannau y bu i chi ymweld â nhw, pob llinyn chwilio y gwnaethoch chi ei nodi mewn peiriannau chwilio (Google, Yahoo, MSN), a gwybodaeth y gwnaethoch chi ei nodi ar wefannau a rhagor. Os yw diogelwch yn broblem, gwnewch yn siŵr eich bod yn dileu eich hanes pori o'ch cyfrifiadur. (Efallai y bydd yn dal yn bosibl i rywun weld pa wefannau rydych chi wedi ymweld â nhw. Os yw diogelwch yn flaenoriaeth rydym ni’n argymell ei bod fwyaf diogel i chi ddefnyddio’r wefan hon o rywle diogel; fel llyfrgell, caffi rhyngrwyd neu dŷ ffrind).

Beth am ystyried cyfnewid peiriannau chwilio?

Mae peiriant chwilio o’r enw DuckDuckGo yn ddewis gwych. Yn wahanol i Google a pheiriannau chwilio eraill, nid yw DuckDuckGo yn casglu nac yn rhannu UNRHYW wybodaeth bersonol.

Pori preifat

Mae ap symudol o’r enw Firefox Focus yn eich helpu i bori yn breifat ac yn blocio rhaglenni sydd wedi’u dylunio i’ch tracio. Ar ôl gorffen pori, gallwch glicio’r botwm ‘Dileu’ i ddileu eich holl weithgarwch pori.