Polisiau
Cartref > Amdanom ni > Polisiau
Ein Polisïau
Amddiffyn Plant yn RASASC Gogledd Cymru
Datganiad
Rydym ni’n ymroi i amddiffyn a diogelu lles pob plentyn a pherson ifanc sydd naill ai'n defnyddio ein gwasanaeth neu sy’n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â phobl sy'n gwneud hynny. Os datgelir i ni fod plentyn, 17 oed neu iau, mewn perygl o niwed, byddwn yn gweithio, gyda'n defnyddiwr gwasanaeth os yn bosibl, i roi gwybod i’r heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol neu linell gymorth Amddiffyn Plant yr NSPCC am y perygl hwn. Nod ein sefydliad yw cefnogi unrhyw un sydd wedi profi unrhyw fath o drais rhywiol. Ni allwn gynnig cefnogaeth i’r rheiny sy’n cyflawni trais rhywiol.
Cenhadaeth
- Rydym ni’n credu yn hawl pob plentyn i blentyndod hapus, iach a diogel.
- Byddwn yn gwrando ar bob plentyn a pherson ifanc sy'n defnyddio ein gwasanaeth, yn eu gwerthfawrogi ac yn ymroi i’w hamddiffyn
- Byddwn yn cefnogi rhieni, gofalwyr a'r rhai sy'n agos at y plentyn.
- Byddwn yn sicrhau bod ein holl weithwyr yn derbyn cefnogaeth, goruchwyliaeth a hyfforddiant parhaus.
- Byddwn yn sicrhau bod pob aelod o'n grŵp yn mynd trwy'r broses Datgelu CRB.
- Mae gennym gamau clir ar gyfer delio â phryderon am niwed.
- Rydym ni’n cynnal cysylltiadau da ag asiantaethau lleol eraill.
- Lles y plentyn sy’n dod gyntaf.
- Mae gan bob plentyn, heb eithriad, yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth.
- Byddwn yn cymryd pob amheuaeth a honiad o gam-drin o ddifrif gan ymateb iddynt yn gyflym ac yn briodol; a
- Mae gan holl ymddiriedolwyr, gweithwyr a gwirfoddolwyr yr elusen gyfrifoldeb i roi gwybod am bryderon.
Gwerthoedd
- Canolbwyntio ar ddefnyddwyr gwasanaeth: Caiff ein gwaith ei lywio gan anghenion defnyddwyr ein gwasanaeth.
- Ymrwymo i rymuso: Mae'r rhan fwyaf, os nad pob un, o'n defnyddwyr wedi teimlo'n ddi-rym o ganlyniad i'w camdriniaeth, ac rydym yn ymdrechu i wrthbwyso’r profiad hwn trwy gynnig cymaint o ddewis a rheolaeth â phosibl i ddefnyddwyr gwasanaeth.
- Atebol: Rydym ni'n gyfrifol i'r rhai rydym ni'n eu gwasanaethu; goroeswyr trais rhywiol, yn ogystal â'r rhai sy'n eu cefnogi. Mae gennym hefyd gyfrifoldeb i'r rhai sy'n cefnogi ein gwaith. Yn broffesiynol ac yn ariannol rydym yn onest, yn egwyddorol, yn effeithiol ac yn fesuradwy.
- Parch: Parch yw sylfaen ein holl waith. Bydd pawb sy'n defnyddio ein gwasanaeth, sy’n hyfforddi i fod yn rhan o'n gwasanaeth neu sy’n gweithio yn ein gwasanaeth yn cael eu trin â pharch.
Mathau o gamdriniaeth
Fel yr argymhellir yn ‘Working Together under the Children’s Act 1989’ yr Adran Iechyd:
- Anaf Corfforol: Anaf corfforol gwirioneddol neu debygol i blentyn, neu fethiant i atal anaf corfforol (neu ddioddefaint), gan gynnwys gwenwyno bwriadol, mygu a syndrom Munchausen by proxy.
- Cam-drin Rhywiol: Camfanteisio'n rhywiol ar blentyn neu berson ifanc neu fod hyn yn debygol o ddigwydd. Gall y plentyn fod yn ddibynnol a/neu'n anaeddfed yn ddatblygiadol. Mae camfanteisio rhywiol yn cynrychioli cynnwys plant a phobl ifanc dibynnol, anaeddfed yn ddatblygiadol mewn gweithgareddau rhywiol nad ydyn nhw'n eu deall yn wirioneddol, nad ydyn nhw'n gallu rhoi caniatâd gwybodus iddyn nhw neu sy'n torri tabŵs cymdeithasol neu rolau teuluol (Kempe TS & Kempe CH (1978) Child Abuse. Llundain: Fontana/Open Books) (Dyfyniad wedi’i gyfieithu)
- Esgeulustod: Esgeulustod parhaus neu ddifrifol o blentyn neu'r methiant i amddiffyn plentyn rhag dod i gysylltiad ag unrhyw fath o berygl, gan gynnwys oerfel a newyn neu fethiant eithafol i gyflawni agweddau pwysig ar ofal, gan arwain at nam sylweddol ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn, gan gynnwys methiant anorganig i ffynnu.
- Cam-drin Emosiynol: Effaith niweidiol wirioneddol neu debygol ar ddatblygiad emosiynol ac ymddygiadol plentyn a achosir gan gam-drin neu wrthod emosiynol parhaus neu ddifrifol. Mae pob cam-drin yn cynnwys rhywfaint o gamdriniaeth emosiynol. Defnyddir y categori hwn lle mai hwn yw'r prif neu'r unig fath o gamdriniaeth
Ym mis Chwefror 1998, cynigiodd yr Adran Iechyd y categori ychwanegol canlynol:
- Cam-drin wedi’i Drefnu: Gellir diffinio cam-drin wedi’i drefnu neu gam-drin lluosog fel camdriniaeth sy'n cynnwys un neu fwy o bobl yn cam-drin a nifer o blant a phobl ifanc cysylltiedig neu anghysylltiedig sy'n cael eu cam-drin. Gall y camdrinwyr dan sylw fod yn gweithredu ar y cyd i gam-drin plant, weithiau'n gweithredu ar eu pennau eu hunain, neu gallant fod yn defnyddio fframwaith sefydliadol neu safle awdurdod i recriwtio plant i'w cam-drin. Mae cam-drin wedi’i drefnu a cham-drin lluosog yn digwydd fel rhan o rwydwaith o gam-drin ar draws teulu neu gymuned ac o fewn sefydliadau fel cartrefi preswyl neu ysgolion.
Os ydym yn dysgu bod plentyn 17 oed neu iau yn dioddef, neu'n debygol o ddioddef, mewn unrhyw un o'r ffyrdd hyn, byddwn yn gweithio gyda'n defnyddiwr i roi gwybod am y perygl hwn i'r heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn ceisio atal dioddefaint pellach.
Polisi Amddiffyn Plant RASASC Gogledd Cymru
AMCAN
- Cynorthwyo gweithwyr/gwirfoddolwyr/gweithiwr sesiynol RASASC Gogledd Cymru i ddeall eu cyfrifoldebau dros ymateb a delio ag unrhyw bryderon am ddiogelwch plentyn sy'n cael ei ddatgelu iddynt.
- Sicrhau bod unrhyw honiadau o gam-drin neu esgeulustod a wneir i weithwyr/gwirfoddolwyr/gweithiwr sesiynol RASASC Gogledd Cymru yn cael eu cyfeirio'n brydlon at y bobl fwyaf priodol i ddelio â nhw, ac felly sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn.
- Rhoi arweiniad a chefnogaeth i weithwyr/gwirfoddolwyr/gweithiwr sesiynol ar sut i ymateb i bobl sy'n datgelu eu bod wedi cael eu cam-drin.
PERTHNASOL I
Holl weithwyr/gwirfoddolwyr/gweithiwr sesiynol ac ymddiriedolwyr RASASC Gogledd Cymru.
NODWEDDION
Mae'r polisi a'r weithdrefn yn berthnasol i holl weithwyr/gwirfoddolwyr/gweithiwr sesiynol RASASC Gogledd Cymru ac mae'n rhoi cyfeiriad ar y camau i'w dilyn mewn perthynas â phryderon am blant a all godi o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Mae unigolyn yn adrodd am bryderon ynghylch plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso
- Mae gan weithiwr neu wirfoddolwr bryder ynghylch agwedd/ymddygiad unigolyn tuag at blentyn
- Mae plentyn yn dymuno ymddiried neu ddatgelu camdriniaeth neu esgeulustod
Camau i'w cymryd:yn 1 - 3 uchod, mae gan weithwyr/gwirfoddolwyr/gweithiwr sesiynol gyfrifoldeb i weithredu ar unrhyw bryderon sydd ganddynt a chysylltu â Llinell Gymorth Amddiffyn Plant NSPCC ac, os yw'r plentyn mewn unrhyw berygl uniongyrchol, i gysylltu â’r gwasanaethau brys perthnasol ar unwaith. Rhaid i weithwyr/gwirfoddolwyr/gweithiwr sesiynol hefyd gadw cofnod ysgrifenedig o'u gweithredoedd, a hysbysu'r Prif Weithredwr, y Rheolwr Gweithrediadau neu'r Clinigwr Arweiniol. Yn eu habsenoldeb, cysylltwch ag aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Mae gan bawb gyfrifoldeb i weithredu ar unrhyw wybodaeth a gânt am bryderon am blentyn a rhaid ei chyfeirio ymlaen.
Rôl cyfrinachedd
Mae cyfrinachedd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu perthynas o ymddiried rhwng defnyddwyr gwasanaeth a gweithwyr cyflogedig/gwirfoddolwyr. Mae'n bwysig bod POB person sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn teimlo'n ddiogel wrth ddatgelu manylion personol. Dim ond os sicrheir ffiniau cyfrinachedd y gellir cyflawni hyn.
Cyfrinachedd o fewn RASASC
Dylid ei gwneud yn glir i bobl sy'n defnyddio ein gwasanaeth fod cyfrinachedd rhyngddyn nhw a RASASC, nid o reidrwydd y cwnselydd/gwirfoddolwr unigol.
Dylid gwneud y rhesymau am hyn yn glir:
- Mae'n galluogi defnyddiwr y gwasanaeth i gael mynediad at yr holl adnoddau yn RASASC e.e. symud o gyswllt ffôn i gwnsela unigol.
- Mae'n sicrhau pe na bai gwirfoddolwr penodol ar gael, yna gellid cynnig math arall o gefnogaeth.
- Mae'n sicrhau bod gweithwyr/gwirfoddolwyr yn gallu cael cefnogaeth/gwybodaeth gan weithwyr/gwirfoddolwyr eraill a allai gynorthwyo anghenion defnyddiwr y gwasanaeth.
- Mae'n sicrhau bod yr holl waith â defnyddwyr gwasanaeth yn cael ei oruchwylio'n foesegol.
- Mae'n golygu pe bai gan ddefnyddiwr gwasanaeth fater neu sefyllfa y mae angen mynd i'r afael â hi ar unwaith, gallai pobl eraill ddelio â'r sefyllfa pe na bai'r gweithiwr/gwirfoddolwr ar gael.
Mae’n hanfodol fod gweithwyr/gwirfoddolwyr yn egluro’r polisi cyfrinachedd cyn gynted ag y maent mewn cysylltiad â defnyddiwr gwasanaeth.
Eithriadau o gyfrinachedd
Lle bynnag y bo’n bosibl, bydd yr holl fanylion am ddefnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cadw’n gyfrinachol rhwng defnyddiwr y gwasanaeth a RASASC.
Fodd bynnag, mae rhai amgylchiadau lle gall defnyddwyr gwasanaeth fod mewn ‘perygl uniongyrchol’ neu ‘mewn perygl’. Yn y sefyllfaoedd hyn, mae gofyn dilyn canllawiau penodol.
Dyma enghreifftiau o ‘berygl uniongyrchol’:
- Nid yw defnyddiwr gwasanaeth mewn rheolaeth o’u diogelwch eu hunain e.e. dioddef gorddos o gyffuriau.
- Mae defnyddiwr gwasanaeth mewn perygl uniongyrchol sylweddol e.e. rhywun yn galw i ddweud bod rhywun yn ymosod arnynt.
- Mae defnyddiwr gwasanaeth wedi rhoi eraill mewn perygl uniongyrchol.
Dyma enghreffitiau o fod ‘mewn perygl’:
- Dioddef camdriniaeth (rhywiol, corfforol neu emosiynol)
- Camddefnyddio cyffur caled.
- Hunan-niweidio
- Mewn perygl o gael eu hecsbloetio yn rhywiol
- Wedi profi camdriniaeth ac mae’r brodyr a’r chwiorydd mewn perygl ar hyn o bryd.
- Cyfrifoldeb y gweithiwr/gwirfoddolwr yw siarad â defnyddiwr y gwasanaeth am unrhyw beth a allai nodi eu bod mewn perygl uniongyrchol neu risg.
- Pe bai'r defnyddiwr a'r gweithiwr/gwirfoddolwr yn dod i gytundeb bod yr unigolyn yn dod o fewn un o'r categorïau hynny, dylid cymryd y camau priodol.
- Dim ond pan fydd rhywun mewn perygl uniongyrchol y cymerir camau allanol. Yn yr achos hwn, mae'n ddyletswydd ar weithwyr a gwirfoddolwyr i geisio cael caniatâd defnyddiwr y gwasanaeth os yn bosibl.
Camau gweithredol ar gyfer perygl uniongyrchol
Os yw’n bosibl, mae’n rhaid i weithiwr/gwirfoddolwr ymgynghori â’r Rheolwr, aelod Pwyllgor, Rheolwr Cynorthwyol, Goruchwyliwr (os oes gennych chi gytundeb â nhw ei bod yn iawn cysylltu â nhw rhwng sesiynau) neu eu mentor os oes ganddyn nhw un.
Cysylltiadau:
- Rheolwr
- Rheolwr Cynorthwyol
Bydd pob aelod o staff a gwirfoddolwyr yn cael cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn cyswllt ar gyfer yr uchod.
Fodd bynnag, os yw'n argyfwng e.e. mae angen galw ambiwlans, yna dylai'r gweithiwr ddefnyddio eu disgresiwn eu hunain ac ymateb i'r sefyllfa y maent ynddi yn gyntaf, ac yna cysylltu â RASASC pan fo’n fwy priodol.
- Dim ond os na allwch chi gysylltu ag unrhyw un o'r uchod y dylech gymryd unrhyw gamau heb yr ymgynghoriad hwn.
- Cyfrifoldeb y gweithiwr/gwirfoddolwr yw siarad â defnyddiwr y gwasanaeth am bob cam gweithredu posibl fel bod y ddau barti yn deall y goblygiadau.
- Lle nad oes unrhyw gamau priodol yn fewnol, cyfrifoldeb y gweithiwr/gwirfoddolwr yw ceisio cyngor gan drydydd parti.
- Dim ond pan fydd yr holl ddewisiadau uchod yn ofer y cysylltir ag asiantaeth allanol ac y datgelir manylion am hunaniaeth defnyddiwr y gwasanaeth.
- Cyfrifoldeb y gweithiwr/gwirfoddolwr yw sicrhau bod y defnyddiwr yn deall goblygiadau cysylltu â thrydydd parti. Cydnabyddir efallai na fyddwch yn gallu cael caniatâd defnyddiwr y gwasanaeth. Fodd bynnag, mae gennych ddyletswydd gofal i ddiogelu’r defnyddiwr.
- Dim ond pan fyddant mewn ‘perygl uniongyrchol’ y dylid datgelu hunaniaeth defnyddiwr gwasanaeth.
Camau gweithredu ar gyfer y rheiny sydd mewn perygl
- Cyfrifoldeb y gweithiwr/gwirfoddolwr yw trafod gyda defnyddiwr y gwasanaeth unrhyw faterion sy'n peryglu’r defnyddiwr.
- Dylai’r gweithiwr/gwirfoddolwr ddiffinio a chytuno ar unrhyw sefyllfaoedd ‘mewn perygl’ gyda defnyddiwr y gwasanaeth. Dylai unrhyw gamau a gymerir fod i rymuso’r defnyddiwr.
- Mae’n bwysig monitro’r sefyllfa er mwyn sicrhau, os bydd y defnyddiwr yn symud o sefyllfa ‘mewn perygl’ i sefyllfa ‘perygl uniongyrchol’, y gellir cymryd mesurau priodol.
- Er enghraifft, os yw defnyddiwr yn hunan-niweidio, gallai'r gweithiwr/gwirfoddolwr edrych ar ffyrdd o leihau’r niwed.
- Lle mae brodyr a chwiorydd mewn perygl, byddem yn annog defnyddiwr y gwasanaeth i basio’r wybodaeth hon at yr heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol. Gellir gwneud hyn hefyd trwy gysylltu â Llinell Gymorth Amddiffyn Plant RASASC ar 0808 800 5000, a gellir ei wneud yn ddienw.
- Mae'n bwysig trafod gyda'r defnyddiwr oblygiadau unrhyw gamau a gymerir. Er enghraifft, mae'n eithaf anodd gadael gwybodaeth yn ddienw a gall gweithwyr allanol roi pwysau ar bobl sy’n galw i ddatgelu eu hunaniaeth.
- Dylai gweithwyr/gwirfoddolwyr geisio cyngor eu goruchwyliwr, eu mentor neu eu rheolwr i archwilio'r ffordd orau o weithredu.
Camau gweithredu ar gyfer plant sydd mewn perygl
- Efallai fod gan ddefnyddiwr y gwasanaeth wybodaeth am rywun arall sy'n rhoi'r unigolyn hwnnw yn y categori ‘perygl uniongyrchol’ neu ‘mewn perygl’.
- O dan Ddeddf Plant 1989 ac yn unol â Pholisïau a Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru, mae gennym rwymedigaeth foesegol i hyrwyddo lles plant. Cyfrifoldeb y gweithiwr/gwirfoddolwr felly yw sicrhau bod gweithdrefnau'n cael eu dilyn o ran unrhyw blentyn sydd mewn perygl difrifol o niwed.
- Pan fydd plant mewn perygl, cyfeiriwch at ein polisi amddiffyn plant.
Mae Polisi Cyfrinachol RASASC GC wedi cael ei egluro i mi yn y cyfarfod hwn.
Rwy'n deall y bydd y wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio at
ddibenion ystadegol.
Rwy'n deall mai ychydig iawn o wybodaeth sy'n cael ei gadw gan y sefydliad sy'n ymwneud
â sesiynau cwnsela a unrhyw gyswllt a wneir gan ac â'r sefydliad.
Diogelu
Rwy'n deall bod amgylchiadau eithriadol lle efallai fydd rhwymedigaeth gyfreithiol ar
weithiwr RASASC GC i ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol i asiantaethau eraill. Y rhain yw:
- Pan fydd diogelwch neu les plentyn (o dan 18 oed) mewn perygl
- Os byddaf i neu berson arall mewn perygl o niwed difrifol
- Pan fydd atal neu ganfod troseddau, neu arestio neu erlyn troseddwyr yn debygol o gael
ei gyfyngu - Pan ofynnir gan yr heddlu, llysoedd a chyrff eraill sydd â phwerau i orchymyn datgelu
Lle y bo'n bosibl, byddai rheolwr y ganolfan yn cytuno ar y penderfyniad hwn a byddwn
yn ceisio rhoi gwybod i chi am unrhyw ddatgeliad y gellid ei wneud.
Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RDDC)
Rwy'n ymwybodol, yn unol â'r RDDC, fod fy nata'n cael ei gadw at ddibenion ystadegol a'i
gadw o fewn y sefydliad er mwyn derbyn y gwasanaeth. Caiff fy nata ei drosglwyddo i
drydydd parti h.y. tîm iechyd meddwl, aelod o'i deulu, yr heddlu ac ati, lle bynnag y bo
modd gyda fy nghaniatâd ysgrifenedig a lofnodwyd, neu os oes risg diogelu fel yr amlinellir
uchod.
Fy hawliau gyda'r RDDC yw:
- Yr hawl i gael gwybod
- Yr hawl mynediad I fy nata
- Yr hawl i gywiro fy nata
- Yr hawl i ddileu fy nata
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu o fy nata
- Yr hawl i symudiad fy nata
- Yr hawl i wrthwynebu
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau awtomatig
Mae Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn ystyried bod trin gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon ac yn gywir yn bwysig iawn er mwyn gallu gweithio'n llwyddiannus, ac i gynnal hyder y rhai rydym ni'n ymwneud â nhw.
Mae Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn bwriadu sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn gyfreithlon ac yn gywir.
I'r perwyl hwn, bydd Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn cadw at Egwyddorion GDPR, fel y manylir yn Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018.
Yn benodol, mae'r Egwyddorion hynny yn mynnu bod gwybodaeth bersonol:
- Yn cael ei phrosesu'n deg ac yn gyfreithlon ac, yn benodol, ni chaiff ei phrosesu oni bai y caiff amodau penodol eu bodloni.
- Dim ond at un neu fwy o'r dibenion a bennir yn y Ddeddf y gellir ei chael, ac ni chaiff ei phrosesu mewn unrhyw fodd nad yw’n cyd-fynd â'r diben hwnnw neu’r dibenion hynny.
- Yn ddigonol, yn berthnasol ac nid yn ormodol mewn perthynas â'r diben/dibenion hynny.
- Yn gywir a, lle bo angen, yn cael ei diweddaru
- Ddim yn cael ei chadw am fwy o amser nag sydd ei angen.
- Yn cael ei phrosesu yn unol â hawliau gwrthrychau’r data o dan y Ddeddf.
- Yn cael ei chadw’n ddiogel gan Reolydd y Data sy'n cymryd mesurau technegol priodol a mesurau eraill i atal prosesu anawdurdodedig neu anghyfreithlon neu wybodaeth sy’n cael ei cholli, ei dinistrio neu ei difrodi yn ddamweiniol.
- Ni fydd yn cael ei throsglwyddo i wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd oni bai bod y wlad neu'r diriogaeth honno'n sicrhau lefel ddigonol o ddiogelwch ar gyfer hawliau a rhyddid gwrthrychau’r data mewn perthynas â phrosesu gwybodaeth bersonol.
Bydd Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru, drwy fesurau rheoli priodol, gweithredu meini prawf yn llym a thrwy reolaethau, yn:
- Arsylwi’n llawn yr amodau mewn perthynas â chasglu a defnyddio gwybodaeth yn deg,
- Bodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol i bennu’r dibenion y caiff gwybodaeth ei defnyddio,
- Casglu a phrosesu gwybodaeth briodol, a dim ond i’r graddau y mae ei angen i fodloni ei anghenion gweithredol neu i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol,
- Sicrhau ansawdd yr wybodaeth a ddefnyddir,
- Sicrhau y gellir arfer hawliau’r bobl y mae gwybodaeth yn cael ei chadw amdanynt yn llawn o dan y rheoliad. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Yr hawl i gael eich hysbysu
- Yr hawl i gael mynediad at ffeiliau a nodiadau cleientiaid
- Yr hawl i gywiro
- Yr hawl i ddileu
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
- Yr hawl i gludadwyedd data
- Yr hawl i wrthwynebu
- Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniadau awtomatig
- Cymryd mesurau diogelwch technegol a sefydliadol priodol i ddiogelu gwybodaeth bersonol,
- Sicrhau nad yw gwybodaeth bersonol yn cael ei throsglwyddo dramor heb fesurau diogelu addas,
- Trin pobl yn gyfiawn ac yn deg beth bynnag fo'u hoedran, crefydd, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu ethnigrwydd wrth ddelio â cheisiadau am wybodaeth,
- Amlinellu gweithdrefnau clir ar gyfer ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Caniatâd gwybodus
Caniatâd gwybodus yw
- Pan fod gwrthrych y data yn deall yn glir pam fod angen eu gwybodaeth, gyda phwy y bydd yn cael ei rhannu, canlyniadau posibl os ydynt yn cytuno neu’n gwrthod y defnydd arfaethedig o’r data;
- Ac yna yn llofnodi i roi eu caniatâd
Bydd Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn sicrhau bod data'n cael ei gasglu o fewn y ffiniau a ddiffinnir yn y polisi hwn. Mae hyn yn berthnasol i ddata a gesglir yn bersonol, neu drwy lenwi ffurflen.
Wrth gasglu data, bydd Bydd Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn sicrhau bod gwrthrych y data:
- Yn deall yn glir pam mae angen yr wybodaeth
- Yn deall ar gyfer beth y bydd yn cael ei ddefnyddio a beth yw'r canlyniadau pe bai gwrthrych y data yn penderfynu peidio â rhoi caniatâd i brosesu
- Cyn belled ag y bo'n rhesymol bosibl, yn rhoi caniatâd clir, naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar, i brosesu data
- Cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, yn ddigon cymwys i roi caniatâd, ac wedi gwneud hynny yn rhydd heb unrhyw bwysau
- Wedi cael digon o wybodaeth ynghylch pam mae angen eu data a sut y bydd yn cael ei ddefnyddio
Storio Data
Bydd gwybodaeth a chofnodion sy'n ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu storio'n ddiogel a dim ond staff a gwirfoddolwyr awdurdodedig fydd a mynediad atynt.
Bydd gwybodaeth yn cael ei storio dim ond cyhyd ag y mae ei hangen neu hyd at y statud gofynnol a bydd yn cael ei gwaredu'n briodol.
Cyfrifoldeb Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yw sicrhau na ellir adfer yr holl ddata personol a data cwmni o unrhyw system gyfrifiadurol a ddefnyddiwyd yn flaenorol o fewn y sefydliad, sydd wedi’i throsglwyddo/gwerthu i drydydd parti.
Mynediad at ddata a’i gywirdeb
Mae gan bob Gwrthrych Data yr hawl i gael mynediad at yr wybodaeth sydd gan Ganolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru amdanynt. Bydd Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru hefyd yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr wybodaeth hon yn cael ei diweddaru trwy ofyn i wrthrychau data a oes unrhyw newidiadau wedi bod.
Yn ogystal, bydd Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn sicrhau:
- Bod ganddi Swyddog Diogelu Data sydd â chyfrifoldeb penodol dros sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Diogelu Data,
- Bod pawb sy'n prosesu gwybodaeth bersonol yn deall eu bod yn gyfrifol yn gontractiol am ddilyn arfer da o ran diogelu data,
- Bod pawb sy'n prosesu gwybodaeth bersonol wedi'u hyfforddi'n briodol i wneud hynny,
- Bod pawb sy'n prosesu gwybodaeth bersonol yn cael eu goruchwylio'n briodol,
- Bod unrhyw un sydd am wneud ymholiadau am drin gwybodaeth bersonol yn gwybod beth i'w wneud,
- Ei bod yn delio ag unrhyw ymholiadau am drin gwybodaeth bersonol yn brydlon ac yn gwrtais,
- Ei bod yn disgrifio'n glir sut mae'n trin gwybodaeth bersonol,
- Y bydd yn adolygu ac yn archwilio'r ffyrdd y mae'n cadw, yn rheoli ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn rheolaidd,
- Ei bod yn asesu ac yn gwerthuso ei dulliau a'i pherfformiad yn rheolaidd mewn perthynas â thrin gwybodaeth bersonol
- Bod yr holl staff yn ymwybodol y gallai torri'r rheolau a'r gweithdrefnau a nodwyd yn y polisi hwn arwain at gymryd camau disgyblu yn eu herbyn
- Bod yn rhaid rhoi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am unrhyw ddata sydd wedi’i gyfaddawdu o fewn 72 awr.
- Bydd methu â gwneud hynny yn cael ei ystyried yn achos o gamymddwyn difrifol.
Bydd y polisi hwn yn cael ei ddiweddaru yn ôl yr angen i adlewyrchu’r arfer gorau ym maes rheoli data, diogelwch a rheolaeth ac i sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw newidiadau neu ddiwygiadau a wneir i Reoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018
Yn achos unrhyw ymholiadau neu gwestiynau mewn perthynas â'r polisi hwn, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru:
Cyfarwyddwr
Ffôn: 01248 670628
- Datganiad Polisi
Nid yw Deddf Diogelu Data 1998, ei holynydd disgwyliedig a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 (“Deddfau GDPR”) yn nodi cyfnodau penodol ar gyfer cadw, dileu neu ddinistrio data. Mae'r polisi o gadw data o dan Reoliadau Cadw Data (Cyfarwyddeb y CE) 2009 yn berthnasol i ystod eang o ffynonellau. Bydd Polisi Cadw a Dinistrio Data RASASC Gogledd Cymru yn diffinio sut mae RASASC Gogledd Cymru yn storio, yn cadw, yn archifo, yn adfer ac yn cael gwared ar ddata personol (fel y'i diffinnir yn y Deddfau GDPR) sy’n dod i’w ran, a sut mae’n dal, yn defnyddio ac yn prosesu data wrth iddo gynnal ei wasanaethau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.
Gall cadw data personol o'r fath yn amhriodol arwain at dorri contract yn ogystal â mynd yn groes i ddeddfwriaeth sy'n arwain at golled ariannol posibl neu o ran enw da. Pe bai RASASC Gogledd Cymru yn destun digwyddiadau annisgwyl fel problemau parhad busnes neu ymgyfreitha (litigation), efallai y bydd adegau lle bydd angen iddo gael mynediad at y data personol gwreiddiol i amddiffyn ei fuddiannau a buddiannau ei wrthbartïon uniongyrchol a defnyddwyr gwasanaeth eraill. - Cyfrifoldebau
Nod Deddfau Diogelu Data yw lleihau'r amser y cedwir data personol gan endidau ar ôl i'r pwrpas cytunedig gwreiddiol i’w gadw neu ei brosesu ddod i ben. Mae RASASC Gogledd Cymru wedi ystyried natur y data sydd ganddo, y gwasanaethau y mae'n eu darparu, ac anghenion yr heddlu a'r system cyfiawnder troseddol o ran angen mynediad i'r wybodaeth honno weithiau gyda chaniatâd defnyddwyr y gwasanaeth.
Bydd cyfarwyddwyr ac uwch reolwyr RASASC Gogledd Cymru yn sicrhau bod yr holl weithwyr yn ymwybodol o'r Polisi Cadw a Dinistrio Data hwn ac o'r cyfnodau cadw data personol fel y nodir yn y Polisi hwn. Bydd yr holl ddata personol nad oes ei angen neu sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn unol â chaniatâd gwrthrych y data mwyach (fel y'i diffinnir yn y Deddfau Diogelu Data) yn cael ei ddinistrio yn unol â'r Polisi Cadw a Dinistrio Data hwn. Bydd unrhyw ddata personol a gedwir ar ffurf copi caled yn cael ei storio mewn cypyrddau sydd wedi'u cloi neu oddi ar y safle mewn lleoliad diogel tan yr amser hwnnw.
Mae'n ddyletswydd ar holl staff RASASC Gogledd Cymru i sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cadw'n electronig i gyd-fynd ag unrhyw gofnodion copi caled a gedwir yn RASASC Gogledd Cymru a bod lleoliad y ffeil yn cael ei gofnodi. - Cyfnodau Cadw/Dinistrio
Bydd data personol, i'r graddau y mae'n bosibl yn dechnolegol ar y pryd, yn cael ei ddileu/ei olygu neu ei ddinistrio fel arall cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl y cyfnod cadw hwnnw, sef 8 mlynedd ar gyfer gwybodaeth defnyddwyr gwasanaeth, a chofnod gweithwyr/gwirfoddolwyr. Bydd y Polisi Cadw a Dinistrio Data hwn yn cael ei adolygu bob blwyddyn gan Gyfarwyddwr ac Ymddiriedolwyr RASASC Gogledd Cymru i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas at y diben.
Mae RASASC Gogledd Cymru yn cydnabod, yn ein cymdeithas, bod grwpiau ac unigolion wedi dioddef o wahaniaethu yn eu herbyn, a hynny’n uniongyrchol a/neu yn anuniongyrchol. Fel cyflogwr a darparwr gwasanaeth, rydym ni’n ymrwymo i weithredu ein polisi cyfleoedd cyfartal.
Datganiad o fwriad
Mae RASASC Gogledd Cymru yn ymdrechu i fod yn sefydliad cyfle cyfartal ac mae wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth, gweithiwr cyflogedig na gweithiwr di-dâl yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd rhyw, ei hil, ethnigrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, anabledd neu statws iechyd meddwl, statws gyrfa neu'r iaith a siaredir.
Bydd y pwyllgor yn monitro effeithiolrwydd ei bolisi cyfle cyfartal yn rheolaidd ac yn gweithio i sicrhau bod gweithwyr cyflogedig, gweithwyr di-dâl, aelodau pwyllgor a defnyddwyr gwasanaeth yn adlewyrchu cyfansoddiad y gymuned y mae'n ei gwasanaethu yn fwy cywir. Bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn mynd ati’n weithredol i herio pob math o wahaniaethu, boed hynny’n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae RASASC Gogledd Cymru yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth, ac mae peidio â gwahaniaethu yn un o’n gwerthoedd craidd.
Yn fwy cyffredinol, mae’r polisi hwn yn adlewyrchu’r egwyddorion o fewn Deddf Cydraddoldeb 2010. http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2010/15/contents
Amcanion
Recriwtio gweithwyr/gwirfoddolwyr
Bydd yr holl gyfleoedd cyflogaeth yn cael eu hysbysebu'n eang yn y wasg leol ac mewn canolfannau gwaith.
Dylai aelodau paneli cyfweld fod yn gynrychioliadol o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
Gofynnir i bob gweithiwr/gwirfoddolwr gadarnhau ei ymrwymiad i'r polisi cyfle cyfartal. Bydd menywod yn llenwi pob rôl uwch a strategol yn unol â'r canlynol:
Er bod RASASC Gogledd Cymru yn cydnabod bod trais rhywiol yn drosedd o drais a cham-drin pŵer, rydym ni hefyd yn cydnabod ei fod yn aml yn achosi ac o ganlyniad i anghydraddoldeb rhywiol. O ystyried yr anghydraddoldeb hwn, un o brif ddibenion RASASC Gogledd Cymru yw darparu gwasanaethau i fenywod a merched. Mae’n rhaid i 75% o’r Ymddiriedolwyr fod yn fenywod, ac mae’n rhaid i bob rôl uwch a strategol gael ei llenwi gan fenyw.
Recriwtio gwirfoddolwyr
Mae RASASC Gogledd Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn gynrychioliadol o'r gymuned y maent yn ei gwasanaethu.
Bydd gan bob gwirfoddolwr fynediad i'r un gweithdrefnau cwyno â gweithwyr cyflogedig.
Bydd ymgyrchoedd recriwtio gwirfoddolwyr yn ceisio annog pob aelod o'r gymuned i ystyried gwirfoddoli i RASASC; bydd yr holl gyhoeddusrwydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i hyn.
Bydd unrhyw ymddygiad gormesol neu wahaniaethol gan wirfoddolwyr yn cael ei herio.
Cyrsiau hyfforddi ar gyfer gwirfoddolwyr
Mae RASASC Gogledd Cymru yn cydnabod y bydd llawer o'n defnyddwyr gwasanaeth wedi profi neu yn profi gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol. Rydym ni’n teimlo ei bod yn hanfodol bwysig bod pob gwirfoddolwr dan hyfforddiant yn ymwybodol o hyn. Felly mae ein holl raglenni hyfforddi yn treulio peth amser yn edrych ar wahaniaethu ac ymarfer gwrth-ormesol. Ein bwriad yw defnyddio hyfforddwyr sydd â phrofiad o weithio yn y maes hwn yn unig ac sy’n ymrwymo cymaint i gyfle cyfartal ag yr ydym ni.
Bydd unrhyw wirfoddolwyr sy'n gweithredu mewn modd gormesol neu wahaniaethol ar ôl derbyn hyfforddiant ar y pwnc yn cael eu herio, ac efallai y byddant yn destun gweithdrefnau disgyblu.
Defnyddwyr Gwasanaeth
Mae RASASC Gogledd Cymru wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Byddwn yn gweithio tuag at sicrhau bod gweithwyr cyflogedig a gweithwyr di-dâl yn adlewyrchu'r gymuned y mae RASASC Gogledd Cymru yn ei gwasanaethu yn gywir.
Rydym ni’n cydnabod efallai na fydd rhai grwpiau dan anfantais yn defnyddio ein gwasanaeth a bydd ein hymgyrch farchnata yn mynd ati’n benodol i dargedu'r grwpiau hynny nad ydynt yn defnyddio ein gwasanaeth.
Bydd defnyddwyr gwasanaeth yn cael gwybod am ein polisi cyfle cyfartal a bydd RASASC Gogledd Cymru yn herio unrhyw ymddygiad gwahaniaethol neu ormesol.
Bydd RASASC Gogledd Cymru yn gweithio tuag at sicrhau bod ein safleoedd yn hygyrch i bob aelod o'r gymuned.
Cyfrifoldeb
Mae gan bob gweithiwr cyflogedig, gweithwyr di-dâl ac aelodau pwyllgor gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod RASASC Gogledd Cymru yn gweithio tuag at gyfle cyfartal. Fodd bynnag, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr sydd â’r cyfrifoldeb uniongyrchol.
Monitro
Anfonir ffurflenni monitro Cyfleoedd Cyfartal gyda cheisiadau swydd a cheisiadau gwirfoddolwyr. Cyfrifoldeb Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw adolygu'r canlyniadau yn rheolaidd a gweithredu ar unrhyw anghydraddoldebau.
Mae RASASC Gogledd Cymru yn sylweddoli ei bod yn anodd monitro galwadau i’r llinell gymorth ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod cyhoeddusrwydd am y gwasanaeth yn cyrraedd pob aelod o'r gymuned.
Goblygiadau deddfwriaethol
Mae RASASC Gogledd Cymru yn cydnabod gofynion cyfreithiol ar y sefydliad i gydymffurfio â deddfwriaeth bresennol gan gynnwys Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976, Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, Deddfau Gwahaniaethu ar sail Rhyw a Deddf Adsefydlu Troseddwyr.
Polisi
I'r perwyl hwnnw, diben y polisi hwn yw sicrhau cydraddoldeb a thegwch i bawb wrth ddarparu gwasanaethau yn ogystal ag wrth wirfoddoli a chyflogi. Ni fyddwn yn gwahaniaethu'n anghyfreithlon neu'n annheg oherwydd oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, tarddiad ethnig, cenedligrwydd, tarddiad cenedlaethol, crefydd neu gred na chyfeiriadedd rhywiol.
Bydd yr holl wirfoddolwyr a gweithwyr, boed yn rhan-amser, amser llawn neu dros dro, yn cael eu trin yn deg a chyda pharch. Bydd dewis unigolion i’w cyflogi, eu dyrchafu eu hyfforddi neu er unrhyw fudd arall ar sail cymhwyster a gallu. Bydd yr holl wirfoddolwyr a gweithwyr yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddatblygu eu llawn botensial, a bydd eu doniau'n cael eu defnyddio'n llawn i gynyddu effeithlonrwydd RASASC Gogledd Cymru.
Ein hymrwymiad:
- Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod ein gwasanaethau yn hysbys, yn hygyrch ac yn berthnasol i bobl o bob rhan o'r gymuned.
- Byddwn yn creu amgylchedd lle mae gwahaniaethau unigol a chyfraniadau ein holl staff/gwirfoddolwyr yn cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi, a bod pawb sydd â chysylltiad â'r Ganolfan yn profi amgylchedd sy'n hyrwyddo urddas a pharch at bawb.
- Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod hyfforddiant, datblygiad a chyfleoedd gyrfa ar gael i'r holl staff ac, fel y bo'n briodol, i'r holl wirfoddolwyr.
- Byddwn yn cynnal asesiadau effaith cydraddoldeb ac adolygiadau rheolaidd (o bolisïau, arferion a gweithdrefnau) i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw wahaniaethu anfwriadol y gallem ei ddarganfod wrth ddarparu ein gwasanaethau a'n harferion mewnol.
- Byddwn yn herio gwahaniaethu ar bob ffurf, yn unol â'n gwerthoedd sefydliadol.
- Bydd ein prosesau recriwtio ar gyfer staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr yn deg, yn dryloyw ac yn agored yn unol â'n Polisi Recriwtio a Dewis.
- Mae gan bob person sy'n gwirfoddoli neu'n gweithio i RASASC Gogledd Cymru gyfrifoldeb personol am weithredu a hyrwyddo ein hegwyddorion wrth iddynt ddelio â phawb o ddydd i ddydd – gan gynnwys aelodau o'r cyhoedd, gwirfoddolwyr a staff eraill. Bydd mynd yn groes i’n polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei ystyried fel achos o gamymddwyn a gall arwain at achos disgyblu, yn unol â'n polisi cwynion.
Mynd yn groes i’r polisi hwn
Pe bai unrhyw aelod o'r sefydliad neu ddefnyddiwr gwasanaeth yn poeni bod unrhyw beth wedi mynd yn groes i’r polisi hwn, dylent ddilyn y canllawiau fel yr amlinellir yn y Weithdrefn Gwynion a/neu'r Polisi Aflonyddu a Bwlio fel sy'n briodol.
Egwyddorion
Mae RASASC Gogledd Cymru yn annog pob gweithiwr/gwirfoddolwr cyflogedig; gwirfoddolwyr a gweithwyr/gwirfoddolwyr allanol cyflogedig i ddatrys cwynion yn anffurfiol. Credwn fod gan unrhyw un sydd â chwyn hawl i'w fynegi. Bydd pob cwyn yn cael ei chadw mor gyfrinachol â phosibl ac ni chaiff ei thrafod ag unrhyw un y tu allan i'r broses.
Anffurfiol
Yn y lle cyntaf, dylid trafod y gŵyn gyda'r person dan sylw. Yn y rhan fwyaf o achosion, y gobaith yw y gellir datrys y mater ar y cam hwn cyn rhoi gweithdrefn ffurfiol ar waith. Y weithdrefn a ffafrir yw codi'r gŵyn gyda'r unigolyn dan sylw cyn bwrw ymlaen â'r broses ffurfiol.
Fodd bynnag, rydym ni’n cydnabod weithiau os yw'r gŵyn yn erbyn gweithwyr/gwirfoddolwyr cyflogedig yna gallai gwirfoddolwyr, yn enwedig y rhai sy'n cael ei hyfforddi, fod yn fwy cyfforddus yn siarad â gwirfoddolwr arall. Byddant yn trafod y mater gyda'r ddau barti dan sylw ac yn gweithio tuag at ddatrysiad. Dylid cynnal y cyfarfod hwn cyn pen 7 diwrnod ar ôl i'r gŵyn ddod i law.
Yn y rhan fwyaf o achosion, rhagwelir mai'r person mwyaf priodol i siarad â nhw yw'r Prif Swyddog Gweithredol sy'n gyfrifol am yr holl wirfoddolwyr. Mewn rhai achosion, efallai mai un o bolisïau’r sefydliad yw testun y gŵyn, felly gallai fod yn fwy priodol i'r Prif Swyddog Gweithredol fynd â'r mater at Fwrdd yr Ymddiriedolwyr cyn gweithredu'r weithdrefn ffurfiol.
Ffurfiol
Os na ellir datrys y gŵyn yn anffurfiol, bydd yn cael ei throsglwyddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Yna bydd dau aelod enwebedig priodol sy'n gallu parhau yn annibynnol trwy gydol y broses yn trefnu cyfarfod rhwng y ddwy ochr ar y cyfle cyntaf. Ym mhob achos mae gan y sawl sy'n gwneud y gŵyn a'r person y mae'r gŵyn yn ei erbyn yr hawl i ddod â chynrychiolydd. Gall hwn fod yn swyddog undeb llafur neu'n aelod arall o staff. Yna bydd aelodau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn ceisio datrys y gŵyn. Bydd nodyn ysgrifenedig o ganlyniadau'r cyfarfod hwn a bydd pob parti yn cytuno ar hwn. Os na chaiff y gŵyn ei datrys, cynhelir cyfarfod pellach cyn pen 14 diwrnod.
Yn y cyfarfod terfynol, y gobaith yw y gellir datrys y gŵyn. Fodd bynnag, ar y cam hwn, ar ôl rhoi ystyriaeth lawn i’r mater, bydd cynrychiolwyr y pwyllgor yn gwneud eu penderfyniad terfynol ar y gŵyn.
Nodiadau ychwanegol
Gweithwyr/gwirfoddolwyr cyflogedig
Mae gweithwyr/gwirfoddolwyr cyflogedig yn destun gweithdrefn ddisgyblu, felly be bai’r gŵyn yn cael ei phrofi yn erbyn gweithwyr/gwirfoddolwyr cyflogedig, byddai’r weithdrefn hon yn un weithredol. Yna, fe allai hyn arwain at gymryd camau disgyblu erbyn gweithwyr/gwirfoddolwyr cyflogedig. Mae manylion y rhain wedi’u nodi yng nghontract cyflogaeth pob gweithiwr.
Defnyddwyr gwasanaeth
Hysbysir pob defnyddiwr gwasanaeth yn y cyfarfod cychwynnol fod ganddynt hawl i gwyno os nad ydynt yn hapus ag unrhyw agwedd ar y gwasanaeth. Byddwn hefyd yn sicrhau bod arwyddion ym mhob ystafell gwnsela yn esbonio'r weithdrefn gwyno neu'n sicrhau bod pob defnyddiwr gwasanaeth yn cael taflen yn egluro sut y gallant wneud cwyn os oes angen.
Gellir gwneud cwynion i'r Rheolwr neu'r Cadeirydd. Yna byddant yn cysylltu â'r goruchwyliwr a'r cwnselydd i ymchwilio i'r mater. Bydd cwynion a godir yn anffurfiol yn cael eu trafod gyda'r Prif Swyddog Gweithredol, gwirfoddolwr/gweithiwr, goruchwyliwr os yw'n briodol, a defnyddiwr y gwasanaeth (os gofynnir am hynny). Yna dilynir yr un weithdrefn â'r uchod.
Gweithdrefn Diogelu ac Amddiffyn Plant ac Oedolion sydd mewn Perygl RASASC Gogledd Cymru
Mae’r Gweithdrefnau hyn yn berthnasol i bawb sy’n gweithio i Ganolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru (RASASC Gogledd Cymru), gan gynnwys staff/gweithwyr sesiynol/hyfforddai/ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr. At ddibenion y polisi hwn, cyfeirir atynt fel ‘Ymarferydd’.
Lefel y pryder a Gweithred
Os yw'n achos pryder ar unwaith - argyfwng. (Risg ar fin digwydd neu ar hyn o bryd o niwed difrifol)
- Cysylltwch â'r awdurdod priodol (Heddlu)
- Yna ffoniwch yr Unigolion Diogelu Dynodedig i roi gwybod am y cam(au) a gymerwyd.
Os yw'n bryder brys
Os yw'n bryder brys (Mae angen delio â'r pryder y diwrnod hwnnw)
- Cysylltu â'r Unigolion Diogelu Dynodedig, cyn hysbysu'r awdurdodau perthnasol.
- Os nad ydych yn gallu siarad â nhw; ffoniwch yr NSPCC 0808 800 5000 am arweiniad.
- Cysylltwch â'r Unigolion Diogelu Dynodedig i roi gwybod am y cam(au) a gymerwyd.
Os yw'n bryder nad yw'n fater brys
Os yw'n bryder nad yw'n fater brys (Sefyllfa barhaus)
- Cysylltwch â'r Unigolion Diogelu Dynodedig i drafod y sefyllfa.
Unrhyw bryder arall (Ansicr)
- Cysylltwch â'r Unigolion Diogelu Dynodedig i drafod y sefyllfa.
Ym MHOB achos rhaid llenwi'r Ffurflen Adrodd a'i hanfon mewn e-bost i RASASC Gogledd Cymru o fewn 24 awr. Rhaid i’r ffurflen gael ei ‘gwarchod â chyfrinair’ gan ddefnyddio eich enw cyntaf.
- Mae unigolyn dynodedig ar gyfer Diogelu ac Amddiffyn plant ac oedolion sy’n wynebu risg a fydd yn gyfrifol am ymdrin ag unrhyw bryderon ynghylch amddiffyn neu les plant ac oedolion sy'n wynebu risg. Yr Unigolion Diogelu Dynodedig yw:
Fflur Emlyn (rheolwr gweithrediadau) a Samantha Taylor (Cydlynydd Gwasanaethau Clinigol) - Bydd pob ymarferydd yn cael ei ddethol a'i fetio'n ofalus i sicrhau nad ydynt yn peri risg i blant neu oedolion bregus. Byddant hefyd yn cael eu gwirio trwy’r Swyddfa Cofnodion Troseddol.
- Bydd pob ymarferydd yn cael gwybodaeth a hyfforddiant ar ymddygiad diogel a beth i'w wneud os oes ganddynt bryderon am blentyn neu oedolyn sy'n wynebu risg. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am adnabod lle mae pryderon am blentyn neu oedolyn sy’n wynebu risg, o le i gael cyngor a beth i'w wneud os yw'n ymddangos nad oes unrhyw un yn cymryd eu pryderon o ddifrif.
- Manylir ar y categorïau cam-drin ym Mholisi Diogelu RASASC Gogledd Cymru ac maent hefyd ar gael ar wefan yr NSPCC www.nspcc.org.uk
Fel Ymarferydd RASASC Gogledd Cymru, mae’n bosibl y byddwch yn dod yn ymwybodol o bryder mewn perthynas ag amddiffyn plant neu oedolyn sy’n wynebu risg. - Peidiwch â chynhyrfu a pheidiwch â dod i gasgliad yn rhy fuan.
- Cofiwch ddangos cydymdeimlad a byddwch yn barod i gydnabod pa mor anodd yw hi i unrhyw un siarad am faterion fel hyn.
- Peidiwch ag addo y gallwch gadw'r wybodaeth hon i chi'ch hun.
- Pryd y bydd cyfrinachedd yn cael ei ddiystyru.
Yr egwyddor gyfreithiol bod “lles y plentyn / person sy’n wynebu risg yn hollbwysig”
Dylid parchu preifatrwydd a chyfrinachedd lle bo hynny'n bosibl, ond os yw hyn yn eu gadael mewn perygl o niwed, eu diogelwch sy'n dod gyntaf.
Pwyntiau i'w Cofio. Yn gyfreithiol:- Mae'n iawn rhannu gwybodaeth gyda rheolwyr RASASC Gogledd Cymru os ydych yn poeni am ddiogelwch plentyn neu berson sy’n wynebu risg. (Nid yw’n wir bod angen i bawb wybod, bob tro y bydd ‘pryder’ yn cael ei godi. Mae hyn yn parchu hawliau’r plentyn, y teulu a/neu’r staff i breifatrwydd.)
- Mae’n iawn dweud bod pryder wedi’i fynegi ac y bydd y pryder yn cael ei ymdrin ag ef yn unol â gweithdrefnau’r grŵp.
- Os yw'r unigolyn yn rhoi gwybodaeth i chi ynghylch plentyn a allai fod yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, mae'n rhaid i chi gyfathrebu’r wybodaeth honno waeth beth yw ei ddymuniad. (Os yw’r unigolyn yn gyndyn i’w fanylion personol gael eu trosglwyddo, rhowch sicrwydd iddynt y gellir trosglwyddo’r wybodaeth yn ddienw os yw’n dymuno. [Er, efallai y bydd y wybodaeth yn yr atgyfeiriad yn dangos pwy ydyn nhw.] Bydd gwybodaeth sy’n cael ei phasio’n ddienw yn cael yr un lefel o sylw â phe byddent yn cytuno i drosglwyddo eu manylion.)
Sut i ymateb i arwyddion neu amheuon o gamdriniaeth. - Ewch ati i lenwi Ffurflen Gofnodi / Adrodd Diogelu (Plant ac Oedolion sy'n wynebu risg) pryd bynnag y byddwch yn destun pryder neu pan fyddwch yn dod i wybod am destun pryder. Nodwch cymaint o’r wybodaeth a rennir â chi â phosibl ar y ffurflen.
- Rhaid cymryd y camau gweithredu canlynol:
- Os bydd yr unigolyn wedyn yn gofyn i chi am y camau a gymerwyd gan RASASC Gogledd Cymru dylech ei gyfeirio at y Rheolwr.
- Gall delio â materion amddiffyn plant fod yn straen. Mae ymarferwyr yn cael eu hatgoffa i gael cymorth gan y gwasanaeth ac i fynd â'r profiad i oruchwyliaeth os oes angen.
Gweler Atodiad 6 am y Ffurflen Ddiogelu
Mae’r Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC) o’r farn bod gan bawb sy'n dioddef trais rhywiol hawl i gael mynediad at gymorth yn dilyn eu profiadau o gamdriniaeth, waeth beth fo'u rhyw. Fodd bynnag, gall amgylchiadau godi a fyddai’n peryglu diogelwch eraill h.y. staff, gwirfoddolwyr, defnyddwyr gwasanaeth, ac a allai arwain at gyfeirio unigolion at wasanaethau eraill, mwy priodol.
Mae RASASC yn cydnabod y gall rhai dioddefwyr trais rhywiol ddatgelu, gael eu cyhuddo, bod yn destun ymchwiliad neu eu cael yn euog o drosedd rywiol neu dreisgar. At ddibenion y polisi hwn, cyfeirir at y cleientiaid hyn fel cleientiaid â ‘statws deuol’.
Os yw'r unigolyn sy'n ceisio mynediad i'r gwasanaeth yn destun ymchwiliad gan yr heddlu sy'n cynnwys unrhyw fath o drais/cam-drin rhywiol neu unrhyw drosedd arall lle gallai staff neu ddefnyddwyr gwasanaeth eraill fod mewn perygl o niwed, gall RASASC Gogledd Cymru ddal cefnogaeth yn ôl nes bod canlyniad ymchwiliad yr heddlu wedi cau/dod i ben.
Oherwydd natur y broses therapiwtig o fewn cyd-destun sefydliad sy'n canolbwyntio ar ddioddefwyr, nid ydym fel arfer yn darparu therapi llawn i’r rhai sydd wedi’u canfod yn euog o drais rhywiol (lle mae oedolyn wedi cyflawni troseddau).
- Pan gyfeirir cleient statws deuol at RASASC, a bod ymchwiliad i'w brofiad o drais rhywiol yn mynd rhagddo, byddwn yn cynnig cymorth dros y ffôn fel gwasanaeth dros dro
- Bydd atgyfeiriadau ar gyfer unigolion sydd wedi cyflawni trais rhywiol/ymddygiad rhywiol niweidiol yn cael eu hystyried fesul achos yn dilyn ymchwiliad a thrafodaeth gydag arweinydd clinigol a/neu uwch reolwyr/ymddiriedolwyr
- Bydd achosion lle caiff ymddygiad tramgwyddol blaenorol ei ddatgelu, tra bod rhywun eisoes yn ymgysylltu â gwasanaethau RASASC, yn cael eu trafod gyda'r arweinydd clinigol a/neu uwch reolwyr/ymddiriedolwyr
- Gellir cynnig cymorth dros y ffôn/cwnsela ar-lein yn lle sesiynau wyneb yn wyneb i ddefnyddwyr gwasanaeth sy'n peri risg i weithwyr neu i les defnyddwyr gwasanaeth eraill (e.e. hanes o ymddygiad treisgar).
Er mwyn penderfynu ai ni yw'r gwasanaeth mwyaf addas i rywun sydd â statws deuol, bydd pob unigolyn sy'n ceisio mynediad i'r gwasanaeth cwnsela neu gymorth yn cael asesiad cychwynnol o angen (IM) ac asesiad risg cynhwysfawr (a gynhelir gan y Clinigwr Arweiniol a'r Rheolwyr). Bydd y cyntaf yn ystyried a yw'r person yn ceisio’r gwasanaeth mwyaf perthnasol ar yr adeg iawn; bydd yr olaf yn ystyried a yw'r person yn peri risg iddo'i hun neu i eraill.
Os datgelir yn ystod yr asesiad bod yr unigolyn wedi cam-drin eraill yn rhywiol, neu fod yr wybodaeth honno'n dod i'r amlwg yn ystod y broses atgyfeirio, gellir cynnal yr ymchwiliadau canlynol:
- O dan ba amgylchiadau y digwyddodd y drosedd/troseddau ac yn erbyn pwy?
- A yw'r unigolyn wedi cael unrhyw gefnogaeth/help triniaeth ar gyfer ei ymddygiad troseddol?
- A yw'r unigolyn wedi'i gael yn euog o drosedd yn ymwneud â thrais rhywiol yn erbyn eraill?
- A yw'r person yn derbyn cyfrifoldeb am ei ymddygiad?
- A yw'r person yn mynegi empathi dioddefwr?
- A allai gweithio gyda'r cleient gael effaith negyddol ar gleientiaid eraill, neu ar enw da'r ganolfan fel sefydliad sy'n canolbwyntio ar ddioddefwyr?
Os bernir ei bod yn angenrheidiol siarad â gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'r unigolyn er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer ein gwasanaethau, yna gofynnir am ganiatâd. Os na roddwyd caniatâd, mae gan RASASC yr hawl i wrthod gwasanaeth.
Yna mae'n rhaid i'r person(au) sy'n cynnal yr asesiad drafod y broses asesu yn fanwl gyda'r clinigwr arweiniol a/neu'r rheolwyr. Os deuwn yn ymwybodol bod unrhyw un o ddioddefwyr yr unigolyn yn ceisio mynediad at ein gwasanaeth ar hyn o bryd, anghenion y dioddefwr fydd yn dod gyntaf, a bydd gwasanaeth yn cael ei wrthod a’r unigolyn yn cael ei gyfeirio at asiantaeth arall oherwydd gwrthdaro buddiannau.
Ymdrinnir â phob achos yn unigol ac fe ystyrir yr holl wybodaeth. Fodd bynnag, os oes unrhyw bryderon ynglŷn â chymhelliant yr unigolyn i gael mynediad at gymorth neu bryderon am ddiogelwch eraill o fewn RASASC, gwrthodir gwasanaeth i'r unigolyn ac, os yn bosibl, caiff ei gyfeirio at wasanaeth mwy priodol. Rhoddir rhesymau dros hyn a gellir eu cyflwyno'n ysgrifenedig os gofynnir am hynny.
Gwneir penderfyniadau ar b’un a fydd cefnogaeth yn cael ei chynnig fesul achos, a bydd hynny yn ôl disgresiwn y ganolfan.
Bydd yr holl gleientiaid statws deuol sy'n cael Asesiadau Cychwynnol a/neu gefnogaeth barhaus yn cael eu gweld yn y brif ganolfan (fel y gellir sicrhau nad oes unrhyw sesiynau cwnsela eraill yn cael eu cynnal a bod staff yn y swyddfa) neu drwy gwnsela ar-lein.
Bydd data dienw yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Ymddiriedolwyr fel y gellir monitro'r sefyllfa.