Mannau i Fenywod yn Unig

Cartref > Amdanom ni > Polisiau > Mannau i Fenywod yn Unig

Cefndir

Sefydlwyd RASASC Gogledd Cymru ym 1984 gan grŵp o fenywod a oedd am gefnogi menywod eraill yr oedd treisio a thrais rhywiol wedi effeithio arnynt. Yn 2005, ehangodd ein gwasanaethau i gefnogi dynion a bechgyn, ac rydym bellach yn darparu cefnogaeth sy'n seiliedig ar drawma i oroeswyr o bob rhywedd ledled Gogledd Cymru.

Rydym yn cydnabod bod trais rhywiol yn drosedd seiliedig ar rywedd sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched. Mae angen amgylchedd therapiwtig i fenywod yn unig ar lawer o fenywod er mwyn iddynt deimlo'n ddiogel a’u bod yn gallu ceisio cefnogaeth. Ond hefyd, mae trais rhywiol yn effeithio ar bobl o bob rhyw a hunaniaeth rhywedd, ac rydym yn parhau i ddarparu gwasanaethau ymroddedig, parchus a chynhwysol i bob goroeswr.

Terminoleg a Gwerthoedd

Mae’r geiriau a ddefnyddiwn yn bwysig. Ein nod yw bod yn glir, yn barchus a chanolbwyntio ar oroeswyr bob tro wrth gyfathrebu.

  • Pan fydd RASASC Gogledd Cymru yn cyfeirio at ryw, rydym yn cyfeirio at ryw biolegol.
  • Pan fyddwn yn cyfeirio at rywedd (gender), rydym yn cyfeirio at y ffordd y mae person yn uniaethu.

Rydym yn trin pob goroeswr ag urddas ac yn defnyddio'r enwau a'r rhagenwau y maent yn gofyn i ni eu defnyddio. Er bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddefnyddio'r nodwedd warchodedig o ryw wrth ddarparu gwasanaethau un rhyw, rydym yn ymrwymo i gefnogaeth gynhwysol, wedi'i lywio gan drawma i bawb.

Ein Dull o Gynnal Mannau i Fenywod yn Unig ac i Ddynion yn Unig

Mae RASASC Gogledd Cymru yn cynnig eiriolaeth a chwnsela arbenigol i oroeswyr o bob rhywedd. Mae diogelwch, preifatrwydd ac urddas ein cleientiaid yn hanfodol er mwyn sicrhau cefnogaeth therapiwtig effeithiol.

Mannau Menywod (Un Rhyw) yn Unig

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac fel y'i cadarnhawyd gan Oruchaf Lys y Deyrnas Unedig ym mis Ebrill 2025, gellir darparu mannau i fenywod yn unig fel gwasanaethau-un-rhyw, sy'n golygu eu bod ar gyfer menywod biolegol.

Rydym yn cynnig y lleoedd hyn gan fod llawer o fenywod yn teimlo'n fwy diogel a’u bod yn cael mwy o gefnogaeth wrth geisio adferiad mewn amgylchedd i fenywod yn unig.

Mannau Dynion (Un Rhyw) yn Unig

Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau dynion yn unig ar gyfer gwrywod biolegol, gan gydnabod yr angen am amgylcheddau therapiwtig diogel ac addas i rywedd ar gyfer dynion a bechgyn sydd wedi dioddef oherwydd trais rhywiol.

Mannau Rhywedd Benodol ar gyfer Goroeswyr Traws ac Anneuaidd (Non-binary)

Rydym yn cydnabod bod goroeswyr traws ac anneuaidd hefyd yn profi cyfraddau anghymesur o drais rhywiol. Er bod diffiniadau cyfreithiol yn mynnu bod mannau i fenywod yn unig yn rhai un rhyw, rydym yn darparu grwpiau a chefnogaeth rhywedd benodol i oroeswyr traws sy'n cynnal preifatrwydd, urddas a diogelwch.

Grwpiau Cymysg

Mewn rhai amgylchiadau - er enghraifft, grwpiau ar gyfer rhieni/gofalwyr plant sydd wedi’u cam-drin – gall grwpiau rhywedd-gymysg a rhyw-gymysg fod yn addas ac yn fuddiol.

Ein Hymrwymiad

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein dull yn gymesur, yn gyfreithlon, yn barchus ac yn canolbwyntio ar y goroeswr.

  • Byddwn yn adolygu anghenion y bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod ein dull o ddarparu gwasanaethau un rhyw a darpariaeth benodol i rywedd yn parhau i fod yn briodol, yn gymesur ac yn unol â chanllawiau cenedlaethol.
  • Byddwn yn cyfleu'n glir y sail y cynigir ein gwasanaethau i fenywod yn unig a dynion yn unig arni, gan sicrhau cywirdeb ac aliniad â Deddf Cydraddoldeb 2010 a chyfraith achosion berthnasol.
  • Byddwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth gynhwysol o ansawdd uchel i oroeswyr traws ac anneuaidd trwy ddarpariaeth benodol i rywedd neu grŵp cymysg, gan sicrhau dewis gwasanaeth diogel i bawb.
  • Byddwn yn cofnodi ac yn monitro'r defnydd o wasanaethau yn ôl rhyw a hunaniaeth rhywedd er mwyn deall proffil ac anghenion ein cleientiaid yn well, ac i lywio datblygiad ein gwasanaethau.
  • Bydd ein dull yn parhau i fod wedi'i wreiddio mewn arfer croestoriadol, wedi'i lywio gan drawma ac arfer gwrth-ormesol, gan sicrhau bod gwasanaethau'n hygyrch, yn ddiogel ac yn barchus i bawb.