Blas ar Wellhad gydag RASASC Gogledd Cymru

TORWA – Blas ar Wellhad (Taste of Recovery) gydag RASASC Gogledd Cymru

Cymorth Ar-lein Newydd!

Mae ‘Blas ar Wellhad gydag RASASC Gogledd Cymru’ yn rhaglen hunangymorth dan arweiniad y gallwch ei chwblhau yn eich amser eich hun ac ar eich liwt eich hun.

Mae’r rhaglen wedi’i datblygu gan Emily Jacob o ReConnected Life mewn ymateb i’w phrofiad personol ei hun o drawma rhywiol. Nod y rhaglen yw eich helpu i nodi effeithiau trawma rhywiol, i ddatblygu strategaethau ymdopi ac i wella eich lles emosiynol.

Mae rhaglen hunangymorth Blas ar Wellhad gydag RASASC Gogledd Cymru yn cynnwys:

  • 15 sesiwn dyddiol byr i’ch cefnogi i wella yn sgil trawma rhywiol sy’n gallu eich helpu i weithio trwy a deall unrhyw gwestiynau, dryswch ac emosiynau y gallwch fod yn eu profi a’ch helpu i adennill eich rheolaeth, ail-adeiladu hunanwerth a dysgu i wella.
  • Bron 4 awr o gynnwys fideo - hefyd ar gael i'w lawrlwytho fel fersiynau sain yn unig
  • Dros 40 o wahanol dechnegau neu ‘tips’
  • 3 x llyfr gwaith y gellir eu lawrlwytho a’u hargraffu
  • Y gallu i greu eich myfyrdod gofod diogel eich hun gyda mantra personol
  • Arferion lles dyddiol
  • Mynediad gydol oes at y dysgu

Sut ydw i’n cael mynediad at Blas ar Wellhad gydag RASASC Gogledd Cymru?

Mae’r rhaglen ar gael yn rhad ac am ddim i bobl dros 16 oed sydd wedi cael asesiad. I wneud cais am asesiad, cysylltwch â’r swyddfa ar 01248 670 628, anfonwch e-bost at info@rasawales.org.uk neu cysylltwch â ni gyda’n ffurflen ymholi ar-lein

Barod I Ddechrau?

Toggle Menu