Cynghori RASASC GC

Cwnsela a sut rydym ni’n gweithio yn RASASC Gogledd Cymru

Beth yw cwnsela?

Nod cwnsela yw eich helpu chi i ddelio â materion sy'n achosi poen neu'n gwneud i chi deimlo'n anghyfforddus, a'u goresgyn. Gall ddarparu lle diogel a rheolaidd i chi siarad ac archwilio teimladau anodd. Mae eich cwnselydd yno i'ch cefnogi, byddant yn parchu'ch safbwyntiau ac ni fyddant yn eich barnu. Ni fyddant yn rhoi cyngor, ond byddant yn eich helpu i ddeall eich problemau eich hunain.

Yn y sesiynau cwnsela gall y cleient archwilio gwahanol agweddau ar eu bywyd a'u teimladau, gan siarad amdanynt yn rhydd ac yn agored mewn ffordd nad yw'n bosibl yn aml gyda ffrindiau neu deulu. Gall teimladau sydd wedi’u claddu fel dicter, pryder, galar ac embaras ddod yn ddwys iawn ac mae cwnsela yn cynnig cyfle i'w harchwilio, gyda'r posibilrwydd o'u gwneud yn haws i'w deall. (BACP 2004)

Ein Hethos yn RASASC

Gobaith yr holl weithwyr a’r gwirfoddolwyr sy'n gweithio i RASASC yw darparu lle diogel i chi drafod eich meddyliau a'ch teimladau, yn rhydd rhag cael eich barnu a rhywun yn rhoi cyngor.

Rydym ni’n parchu'ch hawl i ddod i'ch penderfyniadau eich hun a gweithio gyda chi i ddod o hyd i'r llwybr sydd fwyaf addas i chi a'ch gwerthoedd.

Er mwyn cofrestru i gael cwnsela neu i ganfod rhagor am y gwasanaeth, ffoniwch 01248 670 628. Byddwn yn cymryd rhai manylion dros y ffôn ac yn eich ychwanegu at ein rhestr aros am apwyntiad asesu cychwynnol gydag un o'n gweithwyr cymorth neu gwnselwyr sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig. Gallwch hefyd gyfeirio eich hunain gan ddefnyddio ein ffurflen gyfeirio ar-lein.

Cyfarfod yw hwn gyda gweithiwr cymorth neu gwnselydd profiadol sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i drafod eich anghenion ac i chi ofyn cwestiynau am y gwasanaeth. Bydd y gweithwr RASASC sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig yn gofyn ambell i gwestiwn am eich rhwydwaith o gefnogaeth, eich iechyd corfforol a meddyliol a phrofiad o drawma rhywiol.

Bydd eich asesiad cychwynnol yn cael ei ddychwelyd i'r swyddfa a'i asesu ar ba gamau gweithredu, cwnsela a/neu gefnogaeth sydd orau ar gyfer eich anghenion. Os yw cwnsela yn addas, byddwch yn cael eich rhoi ar ein rhestr aros am gwnsela a byddwch yn cael cwnselydd cyn gynted ag y bydd un ar gael.

Bydd eich sesiynau cwnsela yn cael eu trafod â'ch cwnselwyr ac fel arfer byddant yn cael eu cynnal yn wythnosol mewn amser a lleoliad a drefnwyd ymlaen llaw.

Mae hyn yn amrywio ar draws siroedd. Mae ein hamser aros presennol rhwng 2 a 4 mis.

Gall RASASC Gogledd Cymru gynnig cefnogaeth wythnosol dros y ffôn drwy Linell Gymorth Byw Heb Ofn a bydd yn cael ei drafod a’i esbonio i chi yn ystod eich asesiad. Bydd hyn yn cael ei drefnu drwy swyddfa RASASC os rhoddir caniatâd.

Bydd eich cwnselydd yn archwilio gyda chi beth yw eich disgwyliadau a'ch anghenion o’r cwnsela.

I gael gwybodaeth fanylach am y broses gwnsela, dilynwch y dolenni isod:


Datganiad cyfrinachedd

Mae cwnsela yn digwydd trwy apwyntiad bob wythnos. Adolygir y broses gwnsela yn rheolaidd, fel arfer bob 6 wythnos. Mae hyn er mwyn sicrhau ei fod yn fuddiol i'r cleient ac mai ni yw'r gwasanaeth mwyaf priodol i'r cleient.

Counselling is provided online, by telephone or face to face depending on preference and Risk Assessments. Our service is ageless and genderless, however we do offer women only and men only spaces in our Bangor Centre upon request. (Saesneg yn unig)

Os na allwch chi ddod i'ch apwyntiad, cofiwch roi cymaint o rybudd â phosibl, gan gysylltu â'ch cwnselydd neu'r swyddfa.

Os byddwch chi'n colli 2 sesiwn yn olynol neu cyfanswm o 3 sesiwn heb rybudd priodol nac esboniad rhesymol, er mwyn sicrhau tegwch, cynigir eich slot i'r person nesaf ar y rhestr aros. Mae croeso i chi ein ffonio yn ôl yn nes ymlaen os ydych chi'n teimlo'n barod i siarad â rhywun.

Gall myfyrio arnoch chi'ch hun a'ch profiadau mewn cwnsela fod yn boenus. Os ydych chi neu'ch cwnselydd yn teimlo nad yw'n amser addas i gael therapi, mae yna fathau eraill o wasanaethau a allai fod o gymorth ac y gellir eu harchwilio gyda'ch cwnselydd. Mae croeso i chi geisio ein gwasanaeth yn nes ymlaen os byddwch chi'n newid eich meddwl.