Gallwn eich helpu chi

Gall cymryd y cam cyntaf o ddweud wrth rywun fod yn anodd iawn. Rydym ni’n deall pa mor anodd y gall hynny fod.

Rydym ni’n darparu amgylchedd cyfrinachol a diogel fel y gallwch gael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch. Mae RASASC Gogledd Cymru yn cynnig gwasanaeth cyfartal i ddynion, menywod a phlant. Ar gais, gallwn ddarparu lleoedd i ferched yn unig neu ddynion yn unig.

Gallwch gael cefnogaeth ar unwaith trwy ffonio’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.

I drefnu cefnogaeth un i un a/neu gwnsela – ffoniwch ein swyddfa ar 01248 670 628 i drafod eich anghenion ac i drefnu asesiad.

To access anonymous email support from RASASC NW click here for more information (translation coming soon..)

Ymholiadau’r cyfryngau – os oes gennych chi ymholiad y cyfryngau ar faterion lleol yn ymwneud â cham-drin rhywiol neu drais, e-bostiwch info@rasawales.org.uk neu ffoniwch y swyddfa ar 01248 670 628.


Cymorth i Oedolion

Rydym ni’n cynnig cefnogaeth a chwnsela arbenigol i bob oedolyn 18 oed a hŷn. Gallwn gynnig lleoedd i ferched yn unig a dynion yn unig.

Os ydych chi wedi profi cam-drin rhywiol gall yr effeithiau fod yn ddinistriol a phara am amser hir. Mae ein therapyddion arbenigol wedi'u hyfforddi i roi cefnogaeth emosiynol i chi, a'ch helpu i ddatrys rhai o'r anawsterau rydych chi'n eu profi. Ni fydd ein therapyddion yn eich brysio nac yn eich barnu. Bydd y gwaith yn digwydd yn eich amser eich hun ac ar eich telerau eich hun.

Mae pob sesiwn therapi yn para awr ac fel rheol bydd yr un diwrnod ac amser bob wythnos, gyda'r un cwnselydd. Fodd bynnag, os ydych chi eisiau sgwrsio â rhywun dros y ffôn yn unig, rhowch gynnig ar ein llinell gymorth sydd ar agor 24/7 ar 0808 80 10 800.

Cysylltwch â'r swyddfa ar 01248 670 628 neu ewch ati i lenwi’r gyfeirio (referral) ar-lein.

To access anonymous email support from RASASC NW click here for more information (translation coming soon..)



Cymorth i Blant a Phobl Ifanc

Rydym ni’n cynnig cefnogaeth, cwnsela ac eiriolaeth arbenigol i blant 3 oed a hŷn a phobl ifanc hyd at 18 oed.

Mae gennym ni ystafell gwnsela bwrpasol ar gyfer plant a phobl ifanc ym Mharc Menai, Bangor a Bae Colwyn. Mae gan ein therapyddion hefyd flychau therapi sy'n cynnwys adnoddau ac offer defnyddiol i gynorthwyo therapi, fel bod gwasanaeth cyfartal yn cael ei ddarparu ledled Gogledd Cymru ac nid yn y lleoliadau lle mae ystafell bwrpasol yn unig.

Os ydych chi wedi profi ymosodiad neu drais rhywiol yn ddiweddar, gall fod yn frawychus gwybod ble i ddechrau.

Os oes angen Cymorth arnoch ar unwaith:
Os ydych chi mewn perygl neu angen sylw meddygol brys, gallwch ffonio 999 i siarad â'r heddlu neu ofyn am ambiwlans neu fynd yn syth i'ch adran Damweiniau ac Argyfyngau agosaf.

Os oes rhywbeth newydd ddigwydd i chi, efallai eich bod eisiau:

  • Ceisio cyrraedd rhywle sy'n teimlo'n ddiogel.
  • Ceisio cadw'n gynnes (fe allech chi fod mewn sioc).
  • Gweld a all ffrind neu rywun rydych chi'n ymddiried ynddynt fod gyda chi.
  • Siarad â rhywun am yr hyn sydd wedi digwydd.
  • Os nad ydych chi'n teimlo fel dweud wrth ffrind neu aelod o'r teulu eto, gallwch ffonio'r llinell gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800

Os ydych chi’n meddwl am roi gwybod i’r heddlu
Eich penderfyniad chi yn llwyr yw adrodd y mater i'r heddlu ai peidio. Ni all unrhyw un arall wneud y dewis hwnnw i chi, ac ni ddylent chwaith.
Os byddwch yn adrodd, cynhelir archwiliad meddygol i gasglu unrhyw dystiolaeth fforensig. Mae hon yn dystiolaeth y gellir ei chasglu trwy brofion gwyddonol, fel DNA o wallt neu hylifau'r corff.

Os nad ydych chi’n siŵr eto a ydych am adrodd i'r heddlu, ond eich bod yn meddwl y gallech ar ryw adeg, gallwch gael archwiliad meddygol fforensig yng Nghanolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) Amethyst, Bae Colwyn (i gael gwybodaeth bellach, cymerwch gip ar SARC Amethyst). Yma, gellir storio tystiolaeth fforensig ar gyfer y dyfodol.

Gallwch gyfeirio'ch hun am ein cefnogaeth a'n therapi trwy'r ffurflen gyfeirio ar-lein, trwy'r llinell gymorth Byw Heb Ofn neu trwy gysylltu â ni'n uniongyrchol yn ein swyddfa ar 01248 670 628 neu drwy anfon e-bost atom: info@rasawales.org.uk

A gawsoch chi eich treisio, eich cam-drin yn rhywiol neu a ydych chi wedi dioddef ymosodiad rhywiol yn y gorffennol? Rydym ni yma i chi waeth pryd y digwyddodd.

P'un a oeddech chi'n oedolyn a/neu'n blentyn pan ddigwyddodd, gall treisio a thrais rhywiol gael effaith fawr ar eich iechyd, eich bywyd a'ch perthnasoedd. Gall rhai o'r rhain bara am amser hir.
Er enghraifft, efallai eich bod yn:

  • Dioddef o iselder, gorbryder, yn cael pyliau o banig neu ffobias.
  • Teimlo’n ddig, yn teimlo cywilydd, yn drist, yn teimlo’n ddiwerth neu’n ofnus.
  • Crio dipyn, neu’n ei chael hi’n anodd teimlo neu ddangos emosiwn.
  • Dioddef o feddyliau ac atgofion aflonyddus neu ymwthiol.
  • Dioddef o symptomau corfforol anesboniadwy, gan gynnwys poen a salwch.
  • Teimlo eich bod yn cael rhyddhad drwy niweidio eich hun – efallai drwy dorri, llosgi, esgeuluso eich anghenion a’ch iechyd, neu yfed ac ysmygu gormod.

Efallai y byddwch hefyd yn gweld bod rhai pethau yn sbarduno atgofion byw o'r hyn a ddigwyddodd i chi. Efallai y byddwch hyd yn oed yn teimlo eich bod yn mynd drwyddo eto.
P'un a yw rhai o'r pethau hyn yn digwydd i chi ai peidio – neu p’un a ydych chi'n byw gydag effeithiau eraill trais rhywiol nad ydynt wedi'u rhestru yma – mae eich profiad yn real, yn ddilys ac yn perthyn i chi. Nid oes unrhyw ffordd gywir nac anghywir i fod neu deimlo, ac nid ydych chi ar eich pen eich hun.

  • Fe allwch chi gyfeirio eich hunain i geisio ein cefnogaeth a/neu therapi trwy ein ffurflen gyfeirio ar-lein, ffonio Llinell Gymorth Byw Heb Ofn neu drwy ffonio ein swyddfa yn uniongyrchol ar 01248 670 628.

Translation coming soon..

  • You can access anonymous support with RASASC NW’s Email Support
  • We can help you access the ISVA service from the Amethyst SARC team in Colwyn Bay