Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA)

Beth yw Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA)?

Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol yw ISVA; arbenigwr sydd wedi’i hyfforddi i gynnig cymorth anfeirniadol, ymarferol ac emosiynol i oroeswyr cam-drin rhywiol. Rôl ISVA yw gweithio gyda goroeswyr a’u helpu i gael mynediad at wasanaethau cymorth eraill a mynd i’r afael ag anghenion hirdymor a byr dymor.

Beth all ISVA ei wneud i helpu?

Rydyn ni’n gwrando, rydyn ni’n credu ac rydyn ni’n cefnogi. Gyda’i gilydd, gall y cleient a’r ISVA asesu eich anghenion a datblygu cynllun ar gyfer eich diogelwch a’ch llesiant.

Mae ISVA yn rhoi gwybodaeth ddiduedd i chi sy’n eich galluogi i wneud dewisiadau

Atgyfeirio a chydlynu’n agos ag asiantaethau eraill

Dod gyda chi i apwyntiadau pwysig

Cefnogi eich camau nesaf ar ôl y broses gyfreithiol

Sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol

Egluro proses yr heddlu, y broses Cyfiawnder Troseddol a beth i'w ddisgwyl os ydych yn dewis riportio.

Ein ethos yng Nghanolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru

Mae pob gweithiwr a gwirfoddolwr sy’n gweithio i Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn gobeithio darparu gofod diogel er mwyn i chi drafod eich meddyliau a’ch teimladau, heb unrhyw feirniadaeth ac i roi cyngor.

Rydyn ni’n parchu eich hawl i wneud eich penderfyniadau eich hun ac yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i'r llwybr sydd fwyaf addas i chi a'ch gwerthoedd.

Sut alla i gael mynediad at wasanaeth ISVA?

I atgyfeirio at wasanaeth ISVA neu i gael gwybod mwy am y gwasanaeth, ffoniwch ein swyddfa ar 01248 670 628 neu gwblhewch ffurflen atgyfeirio ar-lein.

Prosesau ISVA Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru
Bydd eich ISVA yn archwilio eich disgwyliadau a’ch anghenion gyda chi o ran y gwasanaeth ISVA.

Apwyntiadau / sesiynau ISVA

Bydd Apwyntiadau ISVA yn cael eu trafod a’u trefnu gyda chi i fodloni eich anghenion orau. Bydd y broses ISVA yn cael ei hadolygu’n rheolaidd. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr ei fod o fudd i'r cleient ac mai ni yw'r gwasanaeth mwyaf priodol i'r cleient.