Pwy ydym ni a pwy rydym yn rhoi cymorth i

Mae Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC), Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth arbenigol a therapi i unrhyw berson 3 oed a hŷn sydd wedi profi unrhyw fath o gam-drin rhywiol neu drais. Byddwn yn eich cefnogi p'un a ddigwyddodd hyn yn ddiweddar neu yn y gorffennol. Gallwn hefyd gynnig cefnogaeth a therapi arbenigol i bartneriaid ac aelodau teulu’r rheiny sydd wedi dioddef oherwydd cam-drin rhywiol a thrais.

Nid yw ein gwasanaeth yn beirniadu, mae’n gyfrinachol ac ar gael yn rhad ac am ddim. Mae yna eithriadau i gyfrinachedd lle mae diogelwch plant neu oedolion sy’n agored i niwed dan sylw, ond byddwn yn egluro’r rhain i chi pan fyddwn ni’n cwrdd.

Mae ein pencadlys ym Mangor ac rydym ni’n cynnig ein gwasanaethau o amryw leoliadau. Rydym ni’n gwneud ein gorau i sicrhau na fydd raid i chi deithio yn bell i gael cymorth.

Mae gennym ni nifer o wahanol leoliadau ar gael ar draws y 6 sir yng Ngogledd Cymru:

Ynys Môn
Gwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Wrecsam

Er bod RASASC Gogledd Cymru yn Elusen Gofrestredig annibynnol, rydym ni’n gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau statudol a gwirfoddol. Ein nod yw eich helpu chi i ddod o hyd i’r gefnogaeth a’r cymorth mwyaf addas ar gyfer eich anghenion penodol.

(Saesneg yn unig) RASASC NW are members of BACP and work according to the BACP Guidelines. RASASC NW counsellors are also registered members of BACP or an equivalent body, working in accordance to BACP Guidelines as required in our policies and procedures. Further information on RASASC NW governance, strategy and finance can be found on the Charity commission website here.

Rydym ni wedi cyflawni safonau Rape Crisis Cymru a Lloegr, Ymddiriedolaeth Goroeswyr Cymru a Lime Culture.

Rhif elusen gofrestredig. 1057159

Swyddfa: 01248 670 628 | E-bost: info@rasawales.org.uk

Mae Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC) Gogledd Cymru yn darparu cefnogaeth arbenigol annibynnol i alluogi oedolion a phlant i weithio trwy eu profiad o dreisio a/neu drais rhywiol. Mae gwirfoddolwyr hyfforddedig yn rhan o'r ddarpariaeth gwasanaeth, law yn llaw â chwnselwyr hyfforddedig a chymwys a gaiff eu talu fel gweithwyr sesiynol i gynnig cwnsela.

Er bod RASASC Gogledd Cymru yn cydnabod bod trais rhywiol yn drosedd o drais a cham-drin pŵer, rydym ni hefyd yn cydnabod ei fod yn aml yn achosi anghydraddoldeb rhywiol ac yn ganlyniad ohono. O ystyried yr anghydraddoldeb hwn, un o brif ddibenion RASASC Gogledd Cymru yw darparu gwasanaethau i fenywod a merched.

ENW:
Bydd y Grŵp yn cael ei adnabod fel Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol, Gogledd Cymru

 

AMCANION:
Sefydlwyd y grŵp i ddarparu gwasanaethau cymorth arbenigol i unrhyw un yng Ngogledd Cymru sydd wedi profi unrhyw fath o drais rhywiol. Ei bwrpas yw darparu gwasanaeth gwrando cyfrinachol, cwnsela, gwybodaeth a gwasanaeth cymorth; i hyrwyddo addysg y cyhoedd ym maes treisio a cham-drin rhywiol a'u heffeithiau, boed yn gorfforol, yn feddygol, yn seicolegol neu’n gymdeithasol.

Er bod RASASC Gogledd Cymru yn cydnabod bod trais rhywiol yn drosedd o drais a cham-drin pŵer, rydym ni hefyd yn cydnabod ei fod yn aml yn achosi ac o ganlyniad i anghydraddoldeb rhywiol.

Wrth fabwysiadu'r persbectif ffeministaidd hwn mae RASASC Gogledd Cymru yn cydnabod nad yw'r fenyw byth ar fai am gael ei cham-drin. Fel adlewyrchiad o hyn, ac i hyrwyddo cydraddoldeb gwirioneddol, rydym ni’n darparu lleoedd i fenywod yn unig, sy'n sicrhau bod ein gwasanaeth ar gael ac yn hygyrch i bob menyw ledled Gogledd Cymru.