Gymorth Dros E-bost

Os hoffech gymorth gennym ni dros e-bost, gallwch chi gysylltu â ni drwy support@rasawales.org.uk.

Pan fyddwch chi’n anfon e-bost atom ni, rydym ni’n anelu at ateb o fewn 5 diwrnod gwaith. Os nad ydych chi’n cael ateb o fewn y cyfnod hwn, edrychwch yn eich ffolderi Sothach neu Sbam. Os nad ydych chi wedi cael ateb o fewn y cyfnod hwn, gallwch chi gysylltu â’r swyddfa.

Mae’r gwasanaeth cymorth dros e-bost ar gyfer goroeswyr dros 18 ac cael ei ddarparu gan griw bach o gwnselwyr RASASC Gogledd Cymru sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol i gefnogi’r rheiny sydd wedi dioddef oherwydd trais rhywiol o unrhyw fath. Os ydych chi’n dewis e-bostio ni fwy nag unwaith, efallai y byddwch chi’n cael atebion gan wahanol gwnselwyr.

Nid yw ein gwasanaeth cymorth dros e-bost yn wasanaeth cwnsela. Nid ydym ni’n dweud wrthych chi beth i'w wneud, yn cynnig cyngor, nac yn ceisio dylanwadu ar eich penderfyniadau, nid ydym ni’n honni bod gennym ni unrhyw atebion. Yn hytrach, gallwn godi cwestiynau a'ch cefnogi wrth i chi archwilio'ch dewisiadau, a sut rydych chi'n teimlo am reoli'ch bywyd. Gallwn ni hefyd ddarparu gwybodaeth am wasanaethau cymorth eraill, a ffyrdd cyffredin o ymateb neu fynd i’r afael ag effeithiau trais rhywiol. Sylwch na allwn agor unrhyw atodiadau (dogfennau, ffotograffau ac ati).

Cyfrinachedd a Diogelu

Dim ond o dan amgylchiadau penodol y gellir torri cyfrinachedd fel a ganlyn (PWYSIG –lle/os yw defnyddiwr y gwasanaeth cymorth dros e-bost yn dewis rhannu ei enw a’i gyfeiriad neu enw a chyfeiriad y person sydd mewn perygl):

  • Os yw cleient yn datgelu gwybodaeth am gynllun terfysgol (terrorist), mae’n ofyniad cyfreithiol i ni ei datgelu i'r Heddlu.
  • Os yw cleient yn eich hysbysu o'u penderfyniad i ladd neu anafu ei hun neu berson arall yn ddifrifol, rhaid datgelu hyn i'r Heddlu.
  • Os yw cleient yn siarad am gamdriniaeth barhaus hysbys plentyn a enwir (o dan 18 oed) rhaid i ni eu hannog i ddatgelu. Os na wnânt hynny, mae'n rhaid i ni wneud.
  • Rydym ni’n cael gorchymyn llys sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth (gweler Polisi Gwŷs Llys).

 

  1. Am ba hyd ydych chi'n cadw fy negeseuon e-bost? Rydym ni’n dileu negeseuon e-bost ar ôl dau fis. Mae hyn yn golygu, os byddwch chi’n e-bostio fwy nag unwaith y byddwn ni’n gallu gweld eich bod wedi cysylltu â ni o'r blaen. Ond nid ydym ni’n cadw negeseuon am fwy na deufis er mwyn helpu i gadw'ch cyfrinachedd.

  2. Rydw i eisiau bod yn anhysbys pan fyddai’n anfon e-bost atoch chi – ydych chi’n gallu gweld fy nghyfeiriad e-bost? Os byddwch chi’n cysylltu â ni dros e-bost, byddwn ni’n gwybod o ba gyfeiriad e-bost y gwnaethoch chi gysylltu â ni. Os nad ydych chi am i ni wybod eich cyfeiriad e-bost go iawn, fe allech chi sefydlu cyfeiriad e-bost dienw am ddim a'i ddefnyddio i gysylltu â ni. Mae cwmnïau fel Hushmail, Yahoo a Gmail yn cyflenwi cyfeiriadau e-bost am ddim.

  3. A fyddwch chi’n dweud wrth unrhyw un beth rydw i’n ei ddweud? Mae ein gwasanaeth yn gyfrinachol. Ni fyddwn yn gofyn am eich enw, eich cyfeiriad nac unrhyw wybodaeth bersonol arall, felly oni bai eich bod chi’n dewis rhoi’r wybodaeth hon i ni, byddwch yn parhau yn hollol ddienw (heblaw am eich cyfeiriad e-bost). Ni fyddwn yn adrodd unrhyw beth a ddywedwch wrth unrhyw gorff allanol (fel yr heddlu). Rydym ni'n trafod y negeseuon a gawn gyda chwnselwyr eraill yn RASASC Gogledd Cymru, er mwyn annog ein gilydd i ddarparu gwasanaeth cymorth da a chyson. Mae hefyd yn golygu, os byddwch chi'n e-bostio fwy nag unwaith, eich bod chi'n llai tebygol o orfod ailadrodd unrhyw beth rydych chi wedi'i ddweud o'r blaen, pan fydd gwahanol wirfoddolwyr yn eich ateb. Mae ein polisi cyfrinachedd ar gael ar ein gwefan os hoffech ragor o wybodaeth.

  4. Sut alla i guddio fy nhraciau ar-lein? Mae'r ddolen hon yn rhoi mwy o gyngor ar sut i guddio'ch traciau ar-lein. Cofiwch, canllaw yn unig yw’r wybodaeth rydym ni’n ei darparu, ac efallai na fydd yn bosibl cuddio'ch traciau yn llwyr. Os ydych chi am fod yn hollol siŵr nad ydych chi'n cael eich tracio ar-lein, y ffordd fwyaf diogel fyddai mynd ar y we mewn llyfrgell leol, tŷ ffrind neu yn y gwaith, os yw'n briodol.