Grŵp

 

Mi fydd y grwpiau'n dechrau Dydd Iau 6ed o Orffennaf, 2-4y.p a byddant yn rhedeg bob dydd Iau wedi hynny am 8 wythnos yn olynol. Mae'r sesiynau anffurfiol hyn yn darparu lle diogel i ddod i gwrdd â goroeswyr eraill, cael amser i sgwrsio a dadflino. Gall fod yn lle i rannu cynghorion coginio, ryseitiau, haciau DIY, arferion ymarfer corff, darlleniadau a argymhellir, y 'rhaid gwylio' diweddaraf a mwy. Nid yw'n sesiwn gwnsela.

Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn Saesneg.

Ymunwch â ni Dydd Iau 6ed o Orffennaf am 2y.p Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os hoffech fod yn bresennol, cofrestrwch eich diddordeb drwy ebostio: info@rasawales.org.uk neu ffonio 01248 670628

Rarasc NW Women Star Programme poster

Sefydlogi, Trawma ac Adfer

rhaglen newydd a gynhelir dros 6- 8 wythnos

 

Mae nodau ac amcanion y rhaglen yn cynnwys:

  • Datblygu gwytnwch.
  • Deall ein hunain mewn perthnasau.
  • Archwilio trawma gan gynnwys gorbryder, ôl-fflachiadau, euogrwydd a chywilydd.
  • Datblygu sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness).
  • Datblygu sgiliau hunan-drugaredd.
  • Datblygu sgiliau daearu (grounding) i leddfu symptomau trawma.

I gael rhagor o wybodaeth a/neu i sicrhau eich lle ar y rhaglen hon:
Ffoniwch y swyddfa ar 01248 670 628 neu anfonwch e-bost at info@rasawales.org.uk

Star Hysbysiad am Raglen Grŵp Star

 

Mae’r rhaglen ar agor i gleientiaid benywaidd (18+) yng Nghonwy, Gwynedd ac Ynys Môn nad ydynt bellach mewn therapi.

Rarasc Star Programme poster

Rhaglen STaR i Fenywod

Nod y gwaith grŵp yw helpu i hwyluso a deall ein meddyliau a'n cyrff.

Mae'r grŵp yn agored i unrhyw oroeswr benywaidd sydd wedi derbyn therapi gan RASASC GC o'r blaen.

  • Wythnos 1 Cyflwyniadau
  • Wythnos 2 Hunan dosturi a Gwydnwch
  • Wythnos 3 Seilio a rheoli ôl-fflachiadau
  • Wythnos 4 Pryder a goddef gofid
  • Wythnos 5 Cywilydd ac Euogrwydd
  • Wythnos 6 Emosiynau a ffiniau
  • Wythnos 7 Paratoadau ar gyfer dod i ben
  • Wythnos 8 Diwedd y Sessiwn

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu ac os hoffech fynychu asesiad ar gyfer gwaith grŵp, cysylltwch â swyddfa RASASC GC ar 01248 670 628

Rarasc Star Programme poster


Rhaglen STaR i Gwrywod

Byddwn yn cynnal grŵp Sefydlogi, Trawma ac Adferiad wythnosol ar gyfer goroeswyr gwrywod a fydd yn dechrau ddydd Llun y 27ain o Chwefror 2023 ym Mharc Menai, Bangor dros 6-8 wythnos.

Nod y gwaith grŵp yw helpu i hwyluso twf a deall ein meddyliau a'n cyrff.

Mae'r grwp ar agor i unrhyw oroeswr gwrywaidd sydd wedi derbyn therapi gan RASASC GC

Dyma'r pynciau a drafodir:

  • Wythnos 1 Cyflwyniadau
  • Wythnos 2 Trawma
  • Wythnos 3 Y Corff a'r Meddwl
  • Wythnos 4 Cywilydd
  • Wythnos 5 Cywilydd a Phryder
  • Wythnos 6 Pryder a Dicter
  • Wythnos 7 Trawma a Rhagluniaeth ar gyfer dod i ben
  • Wythnos 8 Diwedd y Sessiwn

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu ac os hoffech fynychu asesiad ar gyfer gwaith grŵp, cysylltwch â swyddfa RASASC GC ar 01248 670 628

Rarasc Star Programme poster