Swyddi

Mae Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn asiantaeth arbenigol sydd wedi hen ennill ei phlwyf, gan weithio yn y sector gwirfoddol i gynnig gwasanaeth cwnsela, eiriolaeth a chymorth i oroeswyr trais rhywiol.

Pan fyddwch yn ymuno â Chanolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru, byddwch yn ymuno â thîm o bobl amrywiol, ymroddedig, medrus a phrofiadol sydd ag angerdd am ddarparu’r gwasanaeth a’r eiriolaeth orau i ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin rhywiol. Rydyn ni’n dîm clos sy’n herio ac yn cefnogi ein gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud y pethau iawn yn y ffordd iawn.

Mae gennym fuddion a chefnogaeth wych ar waith a byddwn yn rhoi'r hyfforddiant a'r datblygiad sydd eu hangen arnoch i ragori.

Rydyn ni’n llunio rhestr fer o ymgeiswyr swyddi ar sail cymwysterau, sgiliau a phrofiad amlwg sy'n berthnasol i'r rôl yn unig. Serch hynny, oherwydd natur ein gwaith gyda'n cleientiaid, ar gyfer rhai rolau dim ond ceisiadau gan ymgeiswyr benywaidd y gallwn eu hystyried.

Cydraddoldeb rhywiol

Mae Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn recriwtio gwirfoddolwyr a staff benywaidd ar gyfer rolau penodol, a fydd yn gweithio gyda goroeswyr trais rhywiol o dan Atodlen 9, Rhan 1, Paragraff 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.